Llyn Tanganica
Gwedd
![]() | |
Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Llynnoedd Mawr Affrica, Rift Valley lakes ![]() |
Gwlad | Tansanïa, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Bwrwndi, Sambia ![]() |
Arwynebedd | 32,900 km² ![]() |
Uwch y môr | 773 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 6.1°S 29.5°E ![]() |
Dalgylch | 231,000 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 673 cilometr ![]() |
![]() | |

Llyn yng nghanolbarth Affrica yw Llyn Tanganica. Ef yw'r llyn ail-fwyaf yn Affrica o ran arwynebedd, 32,900 km², ond y dyfnaf a'r un sy'n dal mwyaf o ddŵr. Mae'n 1,470 m o ddyfnder yn y man dyfnaf; dim ond Llyn Baikal yn Siberia sy'n ddyfnach ac yn dal mwy o ddŵr ymhlith llynnoedd dŵr croyw y byd.
Rhennir y llyn rhwng pedair gwlad: Bwrwndi, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Tansanïa a Sambia. Llifa Afon Lukuga o'r llyn i ymuno ag Afon Congo. Yr afonydd mwyaf sy'n llifo i mewn iddo yw Afon Ruzizi ac Afon Malagarasi.
Ceir tua 250 rhywogaeth o bysgod cichlid yn y llyn, a tua 150 o rywogaethau eraill o bysgod. Mae pysgota yn ddiwydiant pwysig yma.