Llyn Baikal
| Math | llyn, Safle Treftadaeth y Byd, mountain lake |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | list of World Heritage Sites in Northern and Central Asia |
| Sir | Gweriniaeth Buryatia, Oblast Irkutsk |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 31,722 km² |
| Uwch y môr | 455.5 metr |
| Yn ffinio gyda | Transbaikal |
| Cyfesurynnau | 53.3028°N 108.0047°E |
| Dalgylch | 560,000 cilometr sgwâr |
| Hyd | 636 cilometr |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
| Manylion | |
Llyn Baikal neu Llyn Bajkal (Rwseg: Озеро Байкал) yw llyn dŵr croyw mwyaf y byd. Saif yn ne Siberia yn Rwsia, i'r de o Fynyddoedd Baikal. Mae'n rhan o Oblast Irkutsk, Dosbarth Ffederal Siberia.

Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Yn y man dyfnaf, mae'n cyrraedd dyfnder o 1,637 medr, ac mae ei arwynebedd yn 31.500 km², tua'r un faint a Gwlad Belg. O ran arwynebedd mae Llyn Superior yn yr Unol Daleithiau a Canada yn fwy, ond mae Baikal yn dal mwy o ddŵr; mwy na'r cyfan o Lynnoedd Mawrion Gogledd America gyda'i gilydd. Ceir digon o ddŵr croyw yma i ddiwallu anghenion poblogaeth y byd am 30 mlynedd.
Llifa tua 300 o afonydd i'r llyn, yn cynnwys Afon Selenga yn y de. Afon Angara yw'r unog un sy'n llifo allan, i ymuno ag Afon Yenisei. Cyhoeddwyd y llyn yn Safle Treftadaeth y Byd yn 1966.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Llyn Baikal o'r gofod
-
Sjamanka, craig sanctaidd siamanaidd ar ynys Olchon yn rhan orllewinol y llyn
-
Llyn Baikal yn yr haf
