Llyn Superior
| Math | glacial lake, rift lake, llyn |
|---|---|
| Cysylltir gyda | Keweenaw Waterway |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Y Llynnoedd Mawr, y ffin rhwng Canada ac UDA, Lake Superior region |
| Sir | Michigan, Ontario, Wisconsin, Minnesota |
| Gwlad | Canada, Unol Daleithiau America |
| Arwynebedd | 82,350 km² |
| Uwch y môr | 183 metr |
| Cyfesurynnau | 47.5288°N 87.76°W |
| Dalgylch | 207,200 cilometr sgwâr |
| Hyd | 563 cilometr |
![]() | |
Un o'r Llynnoedd Mawr yng Ngogledd America yw Llyn Superior (Saesneg: Lake Superior, Ojibweg: Gichigami). Mae'n un o lynnoedd mwyaf y byd, efallai y mwyaf o ran arwynebedd os ystyrir fod Môr Caspia yn fôr yn hyrach na llyn, ac os ystyrir fod Llyn Michigan a Llyn Huron yn ddau lyn yn hytrach nag un. Mae cysylltiad cul rhwng y ddau lyn yma, felly mae llawer yn eu hystyried yn un llyn. Mae Llyn Baikal a Llyn Tanganyika yn cynnwys mwy o ddŵr.
Saif Llyn Superior ar y ffin rhwng Canada a'r Unol Daleithiau. Yn y gogledd, mae'n ffinio ar Ontario, Canada, a Minnesota, Unol Daleithiau, ac yn y de mae'n ffinio ar Wisconsin a Michigan yn yr Unol Daleithiau. Mae ei arwynebedd yn 82,400 km2, a'i hyd yn 560 km. Llifa dros 200 o afonydd i'r llyn; yn eu plith Afon Nipigon, Afon Sant Louis ac Afon Brule, tra mae Afon St Mary yn llifo allan. Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn; y fwyaf yw Isle Royale.


