Llyn Huron
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Lake Michigan–Huron, Y Llynnoedd Mawr, y ffin rhwng Canada ac UDA |
| Sir | Ontario, Michigan |
| Gwlad | Canada, Unol Daleithiau America |
| Arwynebedd | 59,600 km² |
| Uwch y môr | 176 metr |
| Yn ffinio gyda | Huron County, Alpena County, Alcona County |
| Cyfesurynnau | 44.592584°N 82.756293°W |
| Dalgylch | 193,473 cilometr sgwâr |
| Hyd | 332 cilometr |
![]() | |

Un o'r Llynnoedd Mawr yng Ngogledd America yw Llyn Huron (Saesneg: Lake Huron) neu Lyn Hwron. Mae'n un o lynnoedd mwyaf y byd, efallai y trydydd fwyaf o ran arwynebedd os ystyrir fod Môr Caspia yn fôr yn hyrach na llyn. Gellir ystyried fod Llyn Huron a Llyn Michigan yn un llyn yn hytrach na dau. Mae cysylltiad cul rhwng y ddau lyn yma, felly mae llawer yn eu hystyried yn un llyn.
Enwyd y llyn gan y fforwyr Ffrengig cynnar ar ôl y bobl frodorol, yr Huron. Saif Llyn Huron ar y ffin rhwng Canada a'r Unol Daleithiau. Yn y gorllewin, mae'n ffinio ar Michigan yn yr Unol Daleithiau, yn y dwyrain at Ontario, Canada. Mae ei arwynebedd yn 59,596 km2, ac mae'n cynnwys 3,540 km3 o ddŵr.
Llifa nifer o afonydd i'r llyn, yn arbennig Afon St Mary sy'n llifo o Lyn Superior. Mae Afon St Clair yn llifo allan o'r llyn. Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn; y fwyaf yw Ynys Manitoulin, yr ynys fwyaf yn y byd mewn llyn dŵr croyw.

