Gweriniaeth Canolbarth Affrica
| Arwyddair | Undon, Urddas a Gwaith |
|---|---|
| Math | gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad, gweriniaeth |
| Prifddinas | Bangui |
| Poblogaeth | 5,152,421 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | La Renaissance |
| Pennaeth llywodraeth | Félix Moloua |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, Africa/Bangui |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg, Sango |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Canolbarth Affrica |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 622,984 km² |
| Yn ffinio gyda | Tsiad, Swdan, Camerŵn, Gweriniaeth y Congo, De Swdan, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Y Cynghrair Arabaidd |
| Cyfesurynnau | 6.7°N 20.9°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Y Cynulliad Cenedlaethol |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Gweriniaeth Canolbarth Affrica |
| Pennaeth y wladwriaeth | Faustin-Archange Touadéra |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Gweriniaeth Canolbarth Affrica |
| Pennaeth y Llywodraeth | Félix Moloua |
![]() | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | $2,516 million, $2,383 million |
| Arian | Ffranc Canol Affrica (CFA) |
| Canran y diwaith | 7 ±1 canran |
| Cyfartaledd plant | 4.286 |
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.404 |
Gwlad dirgaeedig yng Nghanolbarth Affrica yw Gweriniaeth Canolbarth Affrica (yn Ffrangeg: République Centrafricaine, yn Sango: Ködörösêse tî Bêafrîka). Y gwledydd cyfagos yw Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (Cinsiasa) a Gweriniaeth y Congo (Brazzaville) i'r de, Swdan a De Swdan i'r dwyrain, Tsiad i'r gogledd, a Chamerŵr i'r gorllewin. Mae Gweriniaeth Canolbarth Affrica yn gorchuddio ardal o 620,000 cilometr sgwâr (240,000 milltir sgwâr), ac mae ganddo boblogaeth o tua 4.7 miliwn.
Prifddinas a dinas fwyaf Gweriniaeth Canolbarth Affrica yw Bangui.
Mae hi'n annibynnol ers y 13eg o Awst, 1960, pan cafodd y wlad ryddid wrth Ffrainc.
Arlywydd y wlad yw Faustin Touadera.
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Ers cael annibynniaeth wrth Ffrainc, mae poblogaeth y wlad wedi cynyddu pedwar gwaith. Cododd y boblogaeth o 1,232,000 yn 1960 i tua 4,666,368 erbyn heddiw.
Mae dros 80 o grŵpiau ethnig gwahanol yng Ngweriniaeth Canolbarth Affrica. Y grŵpiau ethnig mwyaf yw :
- Yr Arabiaid Baggara
- Y Baka
- Y Banda
- Y Bayaka
- Y Fula
- Y Gbaya
- Y Kara
- Y Kresh
- Y Mbaka
- Y Mandja
- Y Ngbandi
- Y Sara
- Y Vidiri
- Y Wodaabe
- Y Yakoma
- Y Yulu
- Y Zande
- Ffrancwyr (oherwydd y cyfnod dan reolaeth Ffrainc)
- A llawer o grŵpiau ethnig lleol eraill
Crefydd
[golygu | golygu cod]Yn 2010, roedd 80.3% o'r boblogaeth yn Gristnogion (60.7% Protestanaidd, 28.5% Catholig), ac 8.9% yn Fwslemiaid.
Ieithoedd
[golygu | golygu cod]Mae gan Gweriniaeth Canolbarth Affrica ddau iaith swyddogol - Ffrangeg a Sango. Iaith greole yw Sango sydd wedi'i ddatblygu i weithredu fel lingua franca i gysylltu'r holl grŵpiau ethnig yn y wlad. Mae e wedi'i selio ar iaith y Ngbandi. Gweriniaeth Canolbarth Affrica yw un o'r unig wledydd yn Affrica gyda iaith Affricanaidd fel iaith swyddogol.
