Afon Shire

Oddi ar Wicipedia
Afon Shire ger Nsanje, Malawi

Afon ym Malawi a Mosambic yw afon Shire. Mae'n llifo allan o Lyn Malawi ac yn llifo i mewn i afon Zambezi. Mae ei hyd yn 402 km.

O Lyn Malawi, mae afon Shire Uchaf yn llifo i mewn i Lyn Malombe, tra mae afon Shire Isaf yn llifo o Lyn Malombe trwy Barc Cenedlaethol Liwonde i ymuno ag afon Zambezi.