Celf Gothig

Oddi ar Wicipedia
Celf Gothig
Enghraifft o gerfluniaeth Gothig: rhan o'r tympanwm canolog yn Eglwys Gadeiriol Chartres, Ffrainc.
Enghraifft o'r canlynolarddull mewn celf, symudiad celf Edit this on Wikidata
Mathcelf ganoloesol Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1140 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1530s Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gancelf Romanésg Edit this on Wikidata
Olynwyd gany Dadeni Dysg Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGothig Rhyngwladol, pensaernïaeth Gothig Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc, yr Eidal, yr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Arddull yn y celfyddydau gweledol a flodeuai yn Ewrop, yn y gorllewin a'r canolbarth yn bennaf, o ganol y 12g hyd at ddiwedd y 15g yw celf Gothig. Yn hanes celf y Gorllewin, saif yr oes Gothig rhwng celf Romanésg y 11g a'r 12g a'r Dadeni Dysg a ymgododd yn yr Eidal yn y 14g. Ei brif gyfrwng oedd pensaernïaeth, a gwelir y dull hefyd mewn paentio, cerfluniaeth, a llawysgrifau goliwiedig y cyfnod. Caiff yr esiamplau aruchaf o bensaernïaeth Gothig, sef yr eglwysi cadeiriol mawr a godwyd ar draws gwledydd y gogledd, eu hystyried yn rhan bwysig o etifeddiaeth ddiwylliannol Ewrop a'r Gristionogaeth.[1]

Cychwynnodd yr arddull Gothig yng ngogledd Ffrainc, ac oddi yno ymledodd i bedwar ban y cyfandir: i ddeheudir Ffrainc ac Iberia, i'r Eidal a Malta, ar draws Môr Udd i Loegr, ac i'r Gwledydd Isel a'r Almaen ac i Lychlyn. Fel rheol, celf Gristnogol ydoedd. O'r bensaernïaeth eglwysig a arloesai'r dull Gothig, datblygodd cerfluniaeth grefyddol i addurno'r tu allan. Wrth baentio, defnyddiodd arlunwyr dechnegau newydd i bortreadu ffurfiau mewn modd naturiol, yn hytrach na'r hen ddelweddau anystwyth a gwastad, ar gyfer ffresgoau, allorluniau, paneli, a ffenestri lliw i addurno adeiladau crefyddol. Darluniwyd pynciau seciwlar mewn llawysgrifau goliwiedig, yn ogystal â thestunau crefyddol megis Beiblau a sallwyrau.

Câi celf Gothig ei hwfftio gan brif arlunwyr y Dadeni Dysg, yn enwedig yn yr Eidal. Gwelsai Giorgio Vasari a dyneiddwyr eraill y Dadeni wahaniaeth amlwg rhwng celf a phensaernïaeth ddelfrydol Rhufain hynafol, ac arddull Gothig yr Oesoedd Canol. Fodd bynnag, parhaodd dylanwadau'r Gothig Diweddar yn nodweddiadol o gelf, a phensaernïaeth yn enwedig, yn Nadeni'r Gogledd nes dyfodiad yr oes Faróc yn yr 17g. Byddai clasuriaeth a newydd-glasuriaeth yn cael lle blaenllaw yng nghelf Ewrop hyd at ddyfodiad Rhamantiaeth a'r adfywiad Gothig yn ail hanner y 18g.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gothic art". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Mehefin 2017.