Rhamantiaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Der Wanderer über dem Nebelmeer gan Caspar David Friedrich (1818).
La Mort de Sardanapale gan Eugène Delacroix (1827).
Der Morgen gan Philipp Otto Runge (1808).

Mudiad celfyddydol, llenyddol, a deallusol a ddechreuodd yn Ewrop ar ddiwedd y 18g ac yr oedd ar ei anterth o 1800 hyd 1850 oedd Rhamantiaeth. Roedd yn rhannol yn adwaith i'r Chwyldro Diwydiannol,[1] ond hefyd yn wrthryfel yn erbyn normau cymdeithasol a gwleidyddol aristocrataidd yn Oes yr Oleuo ac yn adwaith i resymoli gwyddonol natur.[2] Yn bennaf yr oedd yn fudiad celfyddydol, cerddorol, a llenyddol, ond cafodd hefyd effaith fawr ar hanesyddiaeth,[3] addysg[4] a'r gwyddorau naturiol.[5] Roedd ei heffaith ar wleidyddiaeth yn eang ac yn gymhleth; ar ei hanterth fe'i gysylltir â rhyddfrydiaeth a radicaliaeth, ond roedd ei heffaith hir-dymor ar dwf cenedlaetholdeb yn bwysicach.

Dilysodd y mudiad emosiwn cryf fel ffynhonnell y profiad esthetig, gan roi pwyslais newydd ar emosiynau megis pryder, ofn, ac arswyd, yn enwedig yr hyn a deimlir wrth ymdrin â'r arddunol yn natur a'i nodweddion darluniadwy. Aruchelwyd celfyddyd werin a thraddodiadau hynafol, gwnaed digymhellrwydd yn nodwedd ddymunol (er enghraifft yr impromptu, neu'r darn difyfyr cerddorol), a dadleuwyd dros epistemoleg naturiol wrth drafod gweithgareddau dynoliaeth yn nhermau iaith a thraddodiad. Estynodd Rhamantiaeth y tu hwnt i fodelau delfrydol rhesymoliaeth a chlasuriaeth gan adfywio canoloesoldeb yn nghelfyddyd a llenyddiaeth i geisio dianc rhag cyfyngiadau'r oes a ddaw o dwf poblogaeth, blerdwf trefol, a diwydiannaeth. Cofleidiodd Rhamantiaeth yr estron, y dieithr, a'r pell mewn modd a ystyrir yn fwy wirioneddol na'r arddull chinoiserie o'r oes rococo.

Er bod gwreiddiau Rhamantiaeth yn y mudiad Almaenig Sturm und Drang, a werthfawrogodd sythwelediad ac emosiwn yn hytrach na rhesymoliaeth yr Oleuedigaeth, fu'r digwyddiadau a'r ideolegau a arweiniodd at y Chwyldro Ffrengig yn plannu hadau'r mudiad Rhamantaidd a'r Gwrth-Oleuedigaeth. Dihangfa rhag gwirioneddau'r cyfnod oedd Rhamantiaeth, ac yn ail hanner y 19g cynigwyd realaeth yn gyferbyn i Ramantiaeth. Rhoddwyd gwerth uchel i gampau unigolwyr ac artistiaid "arwrol" a honnwyd iddynt arloesi newidiadau i wella cymdeithas. Bu'r mudiad hefyd yn tynnu sylw at ddychymyg yr unigolyn fel awdurdod beirniadol oedd yn rhydd rhag syniadau clasurol parthed celfyddyd. Trodd Rhamantiaeth at anocheledd naturiol a hanesyddol, y Zeitgeist, wrth fynegi ei syniadau.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Romanticism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Awst 2014.
  2. Casey, Christopher (October 30, 2008). ""Grecian Grandeurs and the Rude Wasting of Old Time": Britain, the Elgin Marbles, and Post-Revolutionary Hellenism". Foundations. Volume III, Number 1. http://web.archive.org/web/20090513053304/http://ww2.jhu.edu/foundations/?p=8. Adalwyd 2014-05-14.
  3. David Levin, History as Romantic Art: Bancroft, Prescott, and Parkman (1967)
  4. Gerald Lee Gutek, A history of the Western educational experience (1987) ch. 12 on Johann Heinrich Pestalozzi
  5. Ashton Nichols, "Roaring Alligators and Burning Tygers: Poetry and Science from William Bartram to Charles Darwin," Proceedings of the American Philosophical Society 2005 149(3): 304–315