Neo-glasuriaeth

Oddi ar Wicipedia
Neo-glasuriaeth
Enghraifft o'r canlynolsymudiad celf, arddull, arddull mewn celf Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1760 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1830 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganRhamantiaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mudiad i adfer clasuriaeth yn y celfyddydau a flodeuai yn Ewrop o ganol y 18g i ganol y 19g oedd neo-glasuriaeth[1] neu newydd-glasuriaeth.[2] Ymgododd fel adwaith yn erbyn addurnedd a lliwgarwch y dulliau Baróc a rococo. Daeth ei ysbrydoliaeth o gelf a phensaernïaeth glasurol y Groegiaid a'r Rhufeiniaid. Nod y neo-glasurwyr oedd i adfer egwyddorion ac estheteg y gwareiddiad Groegaidd-Rufeinig mewn cyd-destun modern. Daeth i ddominyddu arluniaeth, cerfluniaeth, pensaernïaeth, a chelfyddydau addurnol Ewrop, yn enwedig Ffrainc, yr Eidal, Lloegr, a'r Almaen, am ryw can mlynedd. Lledaenodd hefyd i Unol Daleithiau America, yn enwedig ym maes pensaernïaeth.

Cafodd neo-glasuriaeth ei seilio ar fodelau ac egwyddorion clasurol, yn enwedig rheswm a threfn, ac yn groes felly i ormodedd yr hen ddulliau a fu mor boblogaidd yn y cyfnod modern cynnar. Nodweddir celf neo-glasurol gan arddull eglur a syml, gyda phwyslais ar themâu a phynciau clasurol megis mytholeg, hanes, a llenyddiaeth. Mae'n cynnwys llinellau meinion, siapiau geometrig, a synnwyr o gydbwysedd a chytgord, yn ogystal â blaenoriaethu realaeth ac eglurder yn hytrach na mynegiant emosiynol neu addurniad.

Yn y celfyddydau addurnol, cadwai'r dull neo-glasurol rywfaint o ddestlusrwydd y rococo, ond disodlwyd yr hen grymeddau gwylltion gan linellau syth. Ymddengys manylion clasurol megis garlantau ac yrnau mewn sawl cyfrwng a defnydd. Cynhyrchwyd dodrefn neo-glasurol yn fach ac yn syml, yn aml ag ymylon euraid, a sidanau a phorslen o arlliwiau golau. Mae cyfnod cynnar neo-glasuriaeth yn Ffrainc yn gyfystyr ag "arddull Louis XVI".

Nodweddir pensaernïaeth neo-glasurol gan elfennau clasurol megis colofnau, talogau, a ffrisiau, a dyluniadau cymesur a chydffurf. Yn Lloegr, cyflwynwyd ffurfiau Groegaidd a Rhufeinig i blastai gwledig gan y pensaer Robert Adam.

Arluniaeth[golygu | golygu cod]

Hanes a mytholeg yw'r thema gyffredin yn arluniaeth neo-glasurol, naill ai portreadau o olygfeydd neu gymeriadau o'r Henfyd neu bobl a digwyddiadau cyfoes wedi eu portreadu'n drosiadol yn glasurol. Ymddengys arwyr a rhyfelwyr, doethion ac enwogion, rhiain a llanciau, brenhinoedd a duwiau. Cyflawnwyd y paentiadau mewn dull hynod o drefnus, gyda phwyslais cryf ar linell, ffurf, a chymesuredd. Un o'r prif arlunwyr neo-glasurol oedd y Ffrancwr Jacques-Louis David (1748–1825), sydd yn nodedig am ei baentiadau hanesyddol gyda theimlad cryf a moelni gweledol. Defnyddiai David, yn hytrach na manylder ac addurnedd, dechnegau megis llinellau amlwg a lliwiau gwrthgyferbyniol a synnwyr dramatig ac emosiynol i gyfleu mawredd a delfrydiaeth glasurol. Arbenigai ei fyfyriwr Antoine-Jean Gros (1771–1835) hefyd mewn lluniau hanesyddol, a fe ddaeth i'r amlwg am ei bortreadau o fywyd milwrol Napoleon. Datblygai Jean-Auguste-Dominique Ingres (1780–1867), un arall o fyfyrwyr David, ddull manylach o baentio, a daeth yr hwnnw yn enwog am ei noethluniau, gan gynnwys La Grande Odalisque (1814) a Le Bain turc (1852–62), gweithiau Dwyreinaidd sy'n nodi'r tro tuag at Ramantiaeth.

Cerfluniaeth[golygu | golygu cod]

Cydnabyddir y cerflunydd Eidalaidd Antonio Canova (1757–1822) yn un o arlunwyr gwychaf yr oes neo-glasurol. Mae ei gerfluniau marmor, megis Amore e Psiche (1787–93), yn cyflwyno delfrydau o harddwch yn unol ag estheteg glasurol. Arferid bortreadaeth fwy realistig a naturiol gan y Ffrancwr Jean-Antoine Houdon (1741–1828) yn ei benddelwau o enwogion yr oes.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]