Dwyreinioldeb

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Enw ar agweddau o'r celfyddydau yn y Gorllewin sydd yn dynwared neu'n portreadu diwylliannau'r Dwyrain Canol, De Asia, a Dwyrain Asia yw Dwyreinioldeb. Roedd Dwyreinioldeb yn ffurf boblogaidd yn llenyddiaeth a pheintio Ewrop yn y 18g a'r 19g. Datblygodd yn sgil astudiaethau ar hanes, diwylliannau, a chymdeithasau'r Dwyrain gan ysgolheigion o Ewrop yn yr un cyfnod.

Ers i'r ysgolhaig Edward Said gyhoeddi ei lyfr Orientalism yn 1978, defnyddir y gair hefyd yn feirniadol i gyfeirio at agweddau negyddol a nawddoglyd yn y Gorllewin tuag at gymdeithasau Asia a Gogledd Affrica. Yn ôl Said, mae cyfryngau a chelfyddydau'r Gorllewin yn ystyried y cymdeithasau hyn yn ddisymud ac yn annatblygedig yn eu hanfod, gan lunio ffug-bortread o ddiwylliant y Dwyrain a ellir ei hastudio, ei disgrifio, a'i ailgynhyrchu yn y Gorllewin. Ensyniad y fath feddylfryd ydy'r rhagdyb, neu hunan-dyb, taw gwareiddiad datblygedig, rhesymol, ystwyth, a rhagorol yw'r Gorllewin.

Anthropoleg ac ieithyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu cryn effaith gan astudiaethau Dwyreiniol ar astudiaethau ieithyddol, athronyddol, crefyddol, a chyfreithiol, ac yn bwysig wrth godi seiliau meysydd newydd megis ieitheg, ieithyddiaeth gymharol, anthropoleg ddiwylliannol, gwyddor cymharu crefyddau, a chyfreitheg gymharol. Datblygodd diddordebau newydd ysgolheigion Ewropeaidd yn sgil twf gwladychiaeth ac ymerodraethau gwledydd Ewrop yn Asia ac Affrica. Ymddangosai sawl maes yn ymwneud ag hanes a diwylliant ardaloedd penodol, gan gynnwys Indoleg, Tibetoleg, ac Eifftoleg. Un o hoelion wyth y cyfnod oedd Syr William Jones a ddarganfu'r berthynas rhwng yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd. O ganlyniad i'r darganfyddiadau a chysylltiadau newydd rhwng y Gollewin a'r Dwyrain, cafodd Dwyreinioldeb ddylanwad eang ar gelf Ewrop.

Ers canol yr 20g, rhoddir yr enw astudiaethau Asia ar y maes rhyngddisgyblaethol sydd yn ymwneud â gwyddorau cymdeithas yng nghymdeithasau a diwylliannau'r Dwyrain.[1]

Astudiaethau diwylliannol[golygu | golygu cod y dudalen]

Celf a phensaernïaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Peintiad o harîm gan Fernand Cormon.

Yn gyffredinol, gellir dosbarthu celf Ddwyreinaidd Ewrop yn ddau ddosbarth: celf sy'n dynwared neu'n efelychu arddulliau'r Dwyrain, a chelf sy'n portreadu golygfeydd, pobl, neu bethau'r Dwyrain.

Mae'n debyg taw chinoiserie oedd y mudiad Dwyreinaidd cyntaf yng nghelf Ewrop, a gychwynnai yn niwedd yr 17g. Ceisiai dylunwyr ac arlunwyr Ewropeaidd efelychu cymhlethdod technegol celf Tsieina, yn enwedig yn serameg a'r celfyddydau addurnol. Roedd yn boblogaidd yn enwedig yn y gwledydd a oedd yn masnachu â'r Dwyrain Pell drwy Gwmnïau India'r Dwyrain, sef Lloegr, Denmarc, yr Iseldiroedd, a Ffrainc. Yn niwedd y 18g a dechrau'r 19g, defnyddiwyd "yr arddull Hindŵ" ym mhensaernïaeth Ewrop, yn Lloegr yn bennaf. Ymhlith enghreifftiau o adeiladau sy'n defnyddio nodweddion Indiaidd mae talwyneb Guildhall, Llundain, ac Thŷ Sezincote yn Swydd Gaerloyw. Wedi i argraffiadau blociau pren gyrraedd y Gorllewin o Japan, tua 1860, daeth japonaiserie yn ddylanwad pwysig ar gelf Ewrop a'r Unol Daleithiau, er enghraifft peintiadau Claude Monet a'r Peacock Room gan James McNeil Whistler.

O ran darluniadau Dwyreinaidd yng nghelf Ewrop, portread o wareiddiad dieithr, lliwgar, a dirywiedig a geir gan amlaf. Mae'r mwyafrif o beintiadau Dwyreinaidd yn darlunio diwylliannau Islamaidd y Dwyrain Agos. Peintiai golygfeydd ystrydebol o harimau, brenhinllysoedd, marchnadoedd, ac arwerthiannau caethweision gan arlunwyr megis Eugene Delacroix a Jean-Léon Gérôme. Portreadir pobl y Dwyrain gan amlaf yn ddiog ac yn llygredig, a'r merched yn enwedig mewn modd erotig.

Disgwrs academaidd a gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ei waith Orientalism, mae Edward Said yn ail-ddiffinio'r term gan gyfuno ysgolheictod a chelfyddydau'r Gorllewin sydd yn ymwneud â'r Dwyrain a'u trin mewn dull beirniadol. Gan efelychu'r ôl-drefedigaethwyr Aimé Césaire a Frantz Fanon, dadansoddai Said y disgwrs trefedigaethol a oedd yn parhau i ddiffinio'r berthynas rhwng y Gorllewin a'r Dwyrain hyd yn oed wedi cwymp yr ymerodraethau Ewropeaidd. Amlinella’r broses o greu yr "Orient", ffug-bortread homogenaidd a dychmygol o'r Dwyrain, gan ysgolheigion, llenorion, ac arlunwyr Ewropeaid fel gwrthbwynt i’w Gorllewin gwareiddiedig, uwchraddol hwy.[2] Yn ôl Said, disgwrs hiliol ydy Dwyreinioldeb gan iddo ddi-ystyru profiadau real y Dwyrain a gwadu galluedd ac hanes yr Asiaid a'r Affricanwyr drwy lunio ystrydebau er budd diddordebau gweidyddol, economaidd, a milwrol y Gorllewin.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Orientalism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Hydref 2018.
  2. Greg Muse, "Ôl-drefedigaethedd" yn yr Esboniadur (Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Adalwyd ar 4 Hydref 2018.
  3. Jonathan Spencer, "Orientalism" yn Encyclopedia of Social and Cultural Anthropology golygwyd gan Alan Barnard a Jonathan Spencer (Llundain: Routledge, 2002), tt. 613–14.