Frantz Fanon
| Frantz Fanon | |
|---|---|
| Ganwyd | 20 Gorffennaf 1925 Fort-de-France |
| Bu farw | 6 Rhagfyr 1961 o liwcemia Bethesda |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, athronydd, seiciatrydd, awdur ysgrifau, cymdeithasegydd, gwleidydd, meddyg |
| Adnabyddus am | The Wretched of the Earth, A Dying Colonialism, Black Skin, White Masks |
| Prif ddylanwad | Jean-Paul Sartre, Aimé Césaire |
| Mudiad | decoloniality |
| Priod | Josie Fanon |
| Partner | Michèle Weyer |
| Plant | Mireille Fanon Mendès-France |
| Gwefan | https://fondation-frantzfanon.com/ |
Seiciatrydd, athronydd, chwyldroadwr, a llenor o Martinique oedd Frantz Omar Fanon (20 Gorffennaf 1925 – 6 Rhagfyr 1961). Roedd yn ddylanwadol mewn astudiaethau ôl-drefedigaethol. Ysgrifennodd y llyfrau Peau noire, masques blancs (1952) a Les Damnés de la terre (1961).
Ganwyd yn Fort-de-France, prifddinas Martinique, a mynychodd ysgolion ar yr ynys honno ac yn Ffrainc. Gwasanaethodd ym Myddin Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel astudiodd meddygaeth a seiciatreg ym Mhrifysgol Lyon. Roedd yn bennaeth adran seiciatreg Ysbyty Blida-Joinville, Algeria, o 1953 hyd 1956. Ymunodd â'r mudiad gwrth-drefedigaethol yn Algeria ym 1954 ac ym 1956 daeth yn olygydd y papur newydd El Moudjahid a gyhoeddwyd yn Nhiwnis. Penodwyd yn llysgennad Algeria i Ghana ym 1960 gan y Llywodraeth Dros Dro.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Frantz Fanon. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2013.