Claude Monet
Claude Monet | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Oscar-Claude Monet ![]() 14 Tachwedd 1840 ![]() Paris ![]() |
Bedyddiwyd | 20 Mai 1841 ![]() |
Bu farw | 5 Rhagfyr 1926 ![]() Giverny ![]() |
Man preswyl | Giverny, Villa Saint-Louis ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, arlunydd graffig ![]() |
Adnabyddus am | Impression, Sunrise, Garden at Sainte-Adresse, Houses of Parliament serie, La Corniche near Monaco, Water Lilies, Rouen Cathedral Series ![]() |
Arddull | celf tirlun, bywyd llonydd, portread ![]() |
Mudiad | Argraffiadaeth ![]() |
Priod | Camille Doncieux, Alice Hoschedé ![]() |
Plant | Jean Monet, Michel Monet ![]() |
Llofnod | |
![]() |
- Mae Monet yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Ni ddylid cymysgu rhwng Monet a Manet, paentiwr arall o'r un cyfnod.
Arlunydd o Ffrainc oedd Claude Oscar Monet (14 Tachwedd 1840 – 5 Rhagfyr 1926), yn sylfaenydd y mudiad celfyddydol Argraffiadaeth (Impressionnisme), Ei baentiad Impression: Soleil levant ('Argraff: Yr haul yn codi') a roddodd yr enw i'r mudiad arloesol newydd.[1][2] Roedd ei uchelgais o ddogfenni tirwedd Ffrainc yn ei arwain i beintio'r un olygfa sawl tro er mwyn dal newidiadau yn y golau wrth i'r tymhorau pasio. O 1883 ymlaen bu'n byw yn Giverny, ble y prynodd dŷ ac aeth ati i godi gerddi yn cynnwys pyllau lili a ddaeth yn rhai o'i ddarluniau enwocaf.
Monet ac Argraffiadaeth (Impressionnisme)[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn siomedig ag agwedd ceidwadol yr Académie des Beaux-Arts ac eu hymateb negyddol i'w gwaith, trefnodd Monet a grŵp o arlunwyr o'r un meddwl arddangosfa eu hunain ym 1874. Roedd yr arddangosfa yn agored i unrhyw un oedd yn fodlon talu 60 ffranc ac yn cymeradwyo dim ymyrraeth o banel o ddetholwyr i wrthod unrhyw waith.
Fe arddangoswyd cyfanswm o 165 o weithiau, yn cynnwys rhai gan Renoir, Degas, Pissarro a Cézanne.
Galwyd y grŵp yn Impressionnistes. Eu nod oedd dylunio'r byd o'u cwmpas mewn modd mwy rhydd a ffres na chaniataodd gonfensiynau academaidd y cyfnod, gan ddal yr "argraff" cyffredinol o olygfa a welir gan y llygaid, gyda phwyslais ar effeithiau lliw a golau. Roedd peintio tirluniau yn yr awyr agored yn un o brif nodweddion y symudiad, yn ogystal â golygfeydd o fywyd dinesig bob dydd.
[3]
- Darluniau 1858–1872
Aber y Seine yn Honfleur, 1865, Sefydliad Norton Simon, Pasadena; yn dangos dylanwad arddull peintio morwrol Iseldireg.[4]
Merch yn yr ardd, 1866–1867, Musée d'Orsay, Paris.[5]
Jardin à Sainte-Adresse, 1867, Amgueddfa Metropolitan, Efrog Newydd.[6]
Y Cinio, 1868, Städel, yn dangos Camille Doncieux a Jean Monet, a wrthodwyd gan Salon Paris, 1870, ond gafodd ei gynnwys yn yr arddangosfa gyntaf Impressionnisme yn 1874[7]
La Grenouillére 1869, Amgueddfa Gelf, Efrog Newydd; darlun bach 'plein-air' (yn yr awyr agored) gyda strôc frwsh llydan o liw cryf.[8]
Le port de Trouville (Morglawdd Trouville, ar lanw isel), 1870, Amgueddfa Gelf Gain, Budapest.[9]
La plage de Trouville, 1870, National Gallery, Llundain. Y person ar y chwith gall fod yn Camille, ar y dde gwraig Eugène Boudin[10]
Ym 1876 symudodd teulu Monet i bentref Vétheuil yn rhannu tŷ ag Ernest Hoschedé, dyn busnes cyfoethog ac yn gefnogwr y celfyddydau. Ym 1879 bu farw ei wraig Camille o ganser yn 32 mlwydd oed.[11][12] Yn y cyfnod anodd wedi colled Camille peintiodd Monet rhai o ddarluniau gorau yn darganfod Giverny yn Normandi ym 1883.
Yn 1877 gwnaeth gyfres o ddarluniau o orsaf drenau St-Lazare, Paris, yn astudio ager a mŵg a'r ffordd a'u heffaith ar liw a thryloywder. Roedd yn gallu defnyddio’r astudiaethau hyn yn ddiweddarach ar gyfer effeithiau niwl a glaw.[13][14]
- Darluniau 1873–1879
Prynodd dŷ yn Giverny ar gyfer ei deulu mawr, gydag ysgubor ar gyfer ei stiwdio. Wrth i gyfoeth Monet dyfu fe ehangodd y gerddi gan gyflogi 7 o arddwyr a phensaer.[15] Ym 1993 prynodd ragor o diroedd yn cynnwys dolydd gwlyb ble'r adeiladodd lynnoedd gyda lilis a phont Japaneaidd. Treuliodd yr 20 mlynedd nesaf yn gwneud cyfres o gynfasau mawrion o'r golygfeydd hyn gan astudio'r golau a'r adlewyrchiadau a ddaeth yn rhai o'i weithiau enwocaf.[16] Mae'r tŷ yn Giverny bellach yn agored i'r cyhoedd ac yn denu miloedd o dwristiaid o bob cwr o'r byd.
- Gardd Monet
Peintiodd Monet yn uniongyrchol ar gynfasau mawrion yn yr awyr agored, a'u gorffen yn ei stiwdio yn nes ymlaen. Yn ei ymgais i well gyfleu natur fe wrthododd gonfensiynau Ewropeaidd y cyfnod ynglŷn â chyfansoddi, lliw a phersbectif. Fe'i dylanwadwyd gan brintiau bloc pren Japaneaidd, ei drefniadau anghymesur o elfennau yn pwysleisio eu harwynebedd dau ddimensiwn gan hepgor persbectif llinol. Llwyddodd greu lliwiau llachar ysgeifn gan ychwanegu amrywiaeth o dôn i'r cysgodion, ac yn paratoi cefndir y cynfas gyda lliwiau golau yn lle'r cefndiroedd tywyll a oedd yn draddodiadol mewn tirluniau.
- Darluniau diweddar Monet
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Howard, Michael The Treasures of Monet. (Musée Marmottan Monet, Paris, 2007).
- Kendall, Richard Monet by Himself, (Macdonald & Co 1989, updated Time Warner Books 2004), ISBN 0-316-72801-2
- Monet's years at Giverny: Beyond Impressionism. New York: The Metropolitan Museum of Art. 1978. ISBN 978-0-8109-1336-3. External link in
|title=
(help) (full text PDF available) - Stuckey, Charles F., Monet, a retrospective, Bay Books, (1985) ISBN 0-85835-905-7
- Tucker, Paul Hayes, Monet in the '90s. (Museum of Fine Arts in association with Yale University Press, New Haven and London, 1989).
- Tucker, Paul Hayes Claude Monet: Life and Art Amilcare Pizzi, Italy 1995 ISBN 0-300-06298-2
- Tucker, Paul Hayes, Monet in the 20th century. (Royal Academy of Arts]], London, Museum of Fine Arts, Boston and Yale University press. 1998).
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Bywgraffiad Claude Monet, intermonet.com
- Claude Monet darluniau, cyfryngau & llinell amser rhyngweithiol Archifwyd 2012-10-27 yn y Peiriant Wayback., mootnotes.com
- Claude Monet: bywyd a darluniau Archifwyd 2014-12-18 yn y Peiriant Wayback.
- Monet yn Giverny
- Gwaith Claude Monet
- Claude Monet yn y Guggenheim Archifwyd 2013-11-24 yn y Peiriant Wayback.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ House, John, et al.: Monet in the 20th century, page 2, Yale University Press, 1998.
- ↑ "Claude MONET biography". Giverny.org. 2 December 2009. Cyrchwyd 5 June 2012.
- ↑ From John Rewald, The History of Impressionism
- ↑ Norton Simon Museum
- ↑ "Musée d'Orsay". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-14. Cyrchwyd 2014-08-12.
- ↑ Metropolitan Museum of Art
- ↑ Städel
- ↑ La Grenouillére at the Metropolitan Museum of Art
- ↑ "Le port de Trouville, Museum of Fine Arts, Budapest". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-08. Cyrchwyd 2014-08-12.
- ↑ La plage de Trouville, 1870, National Gallery, London
- ↑ "La Japonaise". artelino. Cyrchwyd 5 June 2012.
- ↑ http://members.aol.com/wwjohnston/camille.htm
- ↑ "Monet's Village". Giverny. 24 February 2009. Cyrchwyd 5 June 2012.
- ↑ Charles Merrill Mount, Monet a biography, Simon and Schuster publisher, copyright 1966, p326.
- ↑ Garrett, Robert (20 May 2007). "Monet's gardens a draw to Giverny and to his art". Globe Correspondents. Cyrchwyd 13 October 2008.
- ↑ Art Gallery of Victoria, Monet's Garden Archifwyd 2013-12-16 yn y Peiriant Wayback., (retrieved 16 December 2013)