Édouard Manet
| Édouard Manet | |
|---|---|
Portread gan Nadar, 1874 | |
| Ganwyd | 23 Ionawr 1832 Paris, Ffrainc |
| Bu farw | 30 Ebrill 1883 (51 oed) Paris, Ffrainc |
| Yn enwog am | Picnic ar y Gwair, 1863 Olympia, 1863 Bar yn y Folies-Bergère, 1882 |
| Galwedigaeth | Peintiwr |
- Mae "'Manet'" yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Ni ddylid cymysgu rhwng Manet a Monet, arlunydd arall o'r un cyfnod.
Arlunydd o Ffrancwr oedd Édouard Manet (23 Ionawr 1832 - 30 Ebrill 1883), sy'n adnabyddus fel un o'r enwocaf o'r Argraffiadwyr (Ffraneg: Impressionnistes). Bu'n un o'r arlunwyr cyntaf y 19g i beintio bywyd y cyfnod ac yn ffigwr allweddol yn y newid o Realaeth i Argraffiadaeth (Impressionnisme).[1]
Achosodd ei weithiau enwog cynnar Le Déjeuner sur l'herbe (Picnic ar y Gwair) ac Olympia gryn syndod pan arddangoswyd yn gyntaf. Yn ddiweddarach roedd y gweithiau yma'n hynod o bwysig yn natblygiad celf fodern gan ddylanwadu’n fawr y cenedlaethau nesaf o arlunwyr.
Wedi'i geni a magu ym Mharis, yn fab i deulu cyfoethog. Fe'i hyfforddodd gyda Thomas Couture. Roedd ei waith yn seiliedig ar y chwarae rhwng cysgod a golau, gyda nifer cyfyngedig o liwiau gan wneud defnydd pwysig o ddu. Bu hefyd yn peintio'n syth o'r model. Roedd gwaith yr arlunydd Sbaeneg Diego Velázquez (1599-1660) yn ddylanwad mawr ar ei steil.
Ym Mharis fe gymysgodd gydag ysgrifenwyr avant-garde, yn fwyaf nodweddiadol gyda Baudelaire a ymddangosodd yn ei ddarlun Y Gerddoriaeth yng Ngerddi Tuileries. Daeth ei waith yn enwog trwy 'Salon des Refusés', arddangosfa o ddarluniau a wrthodwyd gan y sefydliad Salon swyddogol.
Ym 1869 a 1987 cynhaliodd arddangosfeydd un-dyn. Yn yr 1870au, o dan ddylanwad Claude Monet a Renoir, beintiodd dirluniau a golygfeydd o strydoedd wedi'u dylanwadau gan Argraffiadaeth (Impressionnisme). Serch hynny bu'n gyndyn i arddangos ei waith gyda'r impressionnistes gan obeithio am gydnabyddiaeth y Salon.