Diego Velázquez

Oddi ar Wicipedia
Diego Velázquez
GanwydDiego Rodríguez de Silva y Velázquez Edit this on Wikidata
6 Mehefin 1599 Edit this on Wikidata
Sevilla Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd6 Mehefin 1599 Edit this on Wikidata
Bu farw6 Awst 1660 Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, arlunydd Edit this on Wikidata
Swyddarlunydd llys, Great Lodging Master of the Palace Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Triumph of Bacchus, Las Meninas, Apollo in the Forge of Vulcan, Christ in the House of Martha and Mary, The Surrender of Breda, The Waterseller of Seville Edit this on Wikidata
Arddullportread (paentiad), paentiad mytholegol, peintio hanesyddol, paentiadau crefyddol, portread, architectural painting, celf genre, celf tirlun, noethlun, figure, animal art, celfyddyd grefyddol, bywyd llonydd Edit this on Wikidata
MudiadBaróc Edit this on Wikidata
TadJoão Rodrigues da Silva Edit this on Wikidata
MamJerónima Velázquez Edit this on Wikidata
PriodJuana Pacheco Edit this on Wikidata
PlantFrancisca de Silva Velázquez y Pacheco Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Santiago Edit this on Wikidata

Arlunydd o Sbaen oedd Diego Rodríguez de Silva y Velázquez (6 Mehefin 15996 Awst 1660). Roedd yn un o arlunwyr pwysicaf ei gyfnod; ei gampwaith yw Las Meninas (1656). Bu'n ddylanwad pwysig ar arlunwyr diweddarach megis Pablo Picasso a Salvador Dalí. Ymhlith ei weithiau pwysicaf y mae: Gwener yn y Drych (Sbaeneg: La Venus del espejo) a Chwedl Arachne (Catalaneg: Les filadores).

Ganed ef yn Sevilla, Andalucía, Sbaen. Roedd yn fab i Juan Rodríguez de Silva, cyfreithiwr o dras Iddewid-Potiwgeaidd. Astudiodd arlunwaith dan Francisco de Herrera, yna pan oedd tua 12 oed aeth yn brentis i Francisco Pacheco yn Sevilla, lle bu am bum mlynedd. Priododd Juana Pacheco yn 1618; cawsant ddwy ferch.

Aeth i Madrid yn Ebrill 1622, gyda llythyr yn ei gyflwyno i Don Juan de Fonseca, caplan y brenin. Bu farw Rodrigo de Villandrando, prif arlunydd y llys brenhinol, yn Rhagfyr 1622. Cafodd Velázquez ei swydd wedi iddo wneud llun o'r brenin Felipe IV, a chafodd arian i symud ei deulu i Madrid. Bu'n byw yno am y gweddill o'i fywyd, heblaw am flwyddyn o hanner yn byw yn yr Eidal o 1629. Cafodd hyn gryn ddylanwad ar ei arddull. Bu ar ymweliad a'r Eidal eto yn 1649, gan ddychwelyd yn 1651.

Dylanwad[golygu | golygu cod]

Dylanwadodd Velázquez yn aruthrol ar y paentwyr a ddaeth ar ei ôl. Caiff ei adnabod fel y prif ddylanwad ar Édouard Manet - ffaith sy'n goblyn o bwysig pan ystyriwn mai Manet yw'r brif bont rhwng realaeth ac argraffiadaeth (impressionism). Galwodd Manet ef yn "baentiwr y paentwyr" a broliodd yn fwy na dim ei ddefnydd o'i frws cyflym, dewr mewn cyfnod Barocaidd o ddefnydd cynnil, perffaith, academaidd. Gellir gweld ei ddylanwad yn y modd y cafodd ei waith Gwener yn y Drych ei gopio, yn enwedig gan Édouard Manet yn ei baentiad olew Yr Olympia, yn 1863 ac arlunwyr eraill megis Jean Auguste Dominique Ingres a Paul-Jacques-Aimé Baudry.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Prater, tud. 114.
Vieja friendo huevos ("Hen Wraig yn Ffrio Wyau", 1618)
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: