Pablo Picasso

Oddi ar Wicipedia
Pablo Picasso
FfugenwPau de Gósol Edit this on Wikidata
Llais10 PABLO PICASO.ogg Edit this on Wikidata
GanwydPablo Diego José Francisco de Paula Juan Nepomuceno María de los Remedios Cipriano de la Santísima Trinidad Ruiz y Picasso Edit this on Wikidata
25 Hydref 1881 Edit this on Wikidata
Málaga Edit this on Wikidata
Bu farw8 Ebrill 1973 Edit this on Wikidata
Mas Notre-Dame-de-Vie de Mougins Edit this on Wikidata
Man preswylChâteau of Vauvenarg, Mas Notre-Dame-de-Vie de Mougins, rue des Grands-Augustins Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Academia Real de Bellas Artes, San Fernando
  • Escola de Arte e Superior de Deseño Pablo Picasso Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, cerflunydd, dylunydd graffig, gwneuthurwr printiau, coreograffydd, seramegydd, artist posteri, darlunydd, ffotograffydd, dylunydd gwisgoedd, cynllunydd, dylunydd gemwaith, arlunydd graffig, drafftsmon, artist murluniau, artist cydosodiad, gludweithiwr, cynllunydd llwyfan, drafftsmon, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Swydddirector of Museo del Prado Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGuernica, Les Demoiselles d'Avignon, Chicago Picasso, Three Musicians, Science and Charity, Garçon à la pipe, Massacre in Korea Edit this on Wikidata
Arddullarlunydd, cerflunydd, cerfluniaeth, graffeg, serameg, cynllunydd, celf ffigurol, hunanbortread, portread, noethlun, figure, peintio hanesyddol, paentiad mytholegol, alegori, animal art, celf haniaethol, celf tirlun, celf y môr, bywyd llonydd, vanitas Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadHenri Rousseau, Paul Cézanne, African sculpture, Maria Prymachenko Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol Ffrengig Edit this on Wikidata
MudiadCiwbiaeth, Swrealaeth, Ôl-argraffiaeth Edit this on Wikidata
TadJosé Ruiz Y Blanco Edit this on Wikidata
MamMaria Picasso y López Edit this on Wikidata
PriodOlga Khokhlova, Jacqueline Roque Edit this on Wikidata
PartnerNusch Éluard, Dora Maar, Fernande Olivier, Marie-Thérèse Walter, Françoise Gilot, Eva Gouel Edit this on Wikidata
PlantPaulo Ruiz Picasso, Maya Widmaier-Picasso, Claude Picasso, Paloma Picasso Edit this on Wikidata
PerthnasauJosé Vilató Ruiz, Javier Vilató y Ruiz, Xavier Vilató Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Lennin Edit this on Wikidata
llofnod
Llofnod Pablo Picasso

Arlunydd o Sbaen oedd Pablo Picasso (25 Hydref 18818 Ebrill 1973), a aned ym Málaga yn Andalucía. Roedd yn beintiwr, cerflunydd, printiwr, cynllunydd llwyfan, bardd a dramodydd a dreuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd fel oedolyn yn Mougins ac yn y Provence-Alpes-Côte d'Azur yn Ffrainc.

Dangosodd dalent enfawr yn ifanc iawn ac fe ddechreuodd hyfforddiant artistig ffurfiol yn 7 oed gan beintio mewn arddull realistig, yn ystod ei blentyndod a'i arddegau. Yn ystod blynyddoedd cyntaf yr 20g newidiodd ei steil yn aml wrth iddo arbrofi gyda thechnegau a syniadaeth wahanol.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Pablo Picasso, 1953.

Heb amheuaeth, dyma un o'r peintwyr enwocaf a mwyaf dylanwadol yr 20g. Mae Picasso'n ennyn parch am ei dechneg feistrolgar a chreadigrwydd athrylithgar - a'r nodweddion yma'n cyfuno i greu artist chwyldroadol. Cofir Picasso hefyd am ail-ddyfeisio'i hun o hyd, yn newid ei arddull cymaint fel bod gwaith ei fywyd yn ymddangos i fod yn gynnyrch pump neu chwe arlunydd mawr yn hytrach na dim ond un.

Er ei fod yn newid ei arddull yn barhaol, mynnai Picasso nad oedd yr amrywiaethau'n golygu newid radicalaidd i'w yrfa, ond yn hytrach yn adlewyrchiad ei ymrwymiad i ddadansoddi pob ddarn, a'r ffurf a'r dechneg fwyaf addas i gyflawni'r effaith y dymunai.

Bu'n gyfrifol am gyd-sefydlu'r mudiad ciwbiaeth (cubism) a dyfeisiodd gerfluniaeth luniadol (constructed sculpture), cyd-ddyfeisiodd y collage a chaiff ei gofio am ddatblygu ac ymchwilio i amrywiaeth eang o arddulliau eraill.[1][2]

Mae Picasso, Henri Matisse a Marcel Duchamp yn cael eu cyfrif fel y tri artist a ddiffiniodd y newidiadau chwyldroadol yn y byd celf yn ystod degawdau cyntaf y 20g[3][4][5][6]. Ymhlith ei waith mwyaf adnabyddus mae: Les Demoiselles d'Avignon (1907), a Guernica (1937).

Cyfnodau ac arddull[golygu | golygu cod]

Modigliani, Picasso ac André Salmon, 1916
Pablo-Picass, Moise Kisling a Parquerette - Café la Rotonde, Paris 1916

Roedd yn hynod o gynhyrchiol drwy gydol ei oes. Amcangyfrifir iddo greu cyfanswm o tua 50,000 o wahanol eitemau: 1,885 peintiad, 1,228 cerflun, 2,880 darn o serameg, dros 12,000 o luniadau (drawings) a miloedd o brintiadau - a llawer o waith tapestri a rygiau.[7]

Yn aml, mae ei waith yn disgyn i gyfnodau o gatgoriau penodol. Tra bod trafodaeth ar enwau dosbarthiad ei gyfnodau diweddarach, fel arfer mae ei gyfnodau cynharach yn cael eu rhannu'n:

Cyfnod Glas tua 1901-1904, gyda lliwiau glas/gwyrdd sobr yn dynodi pobl gyda golwg druenus arnyn nhw, ac mae'r lliwiau'n cyfleu tristwch ac unigrwydd. Yn aml ceir lluniau o'r tlawd, puteinid, alcoholics neu artistiaid.
Cyfnod Rhosyn tua 1904-1906, newidiwyd ei waith o las llwm i gochion a phinc hapus, gan gyfleu teimlad cynhesach, hapusach. Yn ystod y cyfnod yma peintiodd lawer o luniau'r syrcas ym Mharis.
Cyfnod Affricanaidd tua 1906 i 1909, bu dan ddylanwad celf Affricanaidd gan ddechrau dangos tueddiadau cynnar ciwbaidd. Mae Les Demoiselles d'Avignon o'r cyfnod yma a oedd yn torri tir newydd radicalaidd – mae elfennau'r darlun yn ymddangos fel pe bai wedi'u rannu i wahanol arwynebau fel gwydr wedi'i dorri.
Cyfnod Ciwbiaeth tua 1909-1912, wedi datblygu gyda Georges Braque, gan ddefnyddio lliwiau niwtral gan gymryd yr elfennau unigol a'u dadansoddi yn ôl eu siapiau a'u ffurfiau. Roedd gwaith y cyfnod yma'n dueddol o fod o offerynnau cerddorol, bywyd llonydd a ffrindiau.
Ciwbiaeth Synthetig 1912-1919, gan ddatblygu syniadaeth Ciwbiaeth wrth dorri a gludo papur a gwneud defnydd cynnar o 'collage'. Mae'r arddull yn cyfuno elfennau a wnaethpwyd mewn ffyrdd traddodiadol gydag elfennau fel darnau o becynnau wedi'u lapio.[8][9]

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18), dychwelodd Picasso i arddulliau mwy traddodiadol gan symud i ffwrdd o Giwbiaeth a ddyfeisio fersiwn unigryw o glasuriaeth a defnyddio delweddau yn seiliedig ar anifeiliaid a bwystfilod fel Minotor (bwystfil gyda phen tarw ar gorff dyn) a nymffau (duwies hardd noeth) o gelf glasurol. Tua diwedd y 1920au arbrofodd gyda delweddau a thechnegau wedi'u dylanwadu gan swrealaeth (surraelism) a oedd yn fudiad gelf newydd ar y pryd er iddo beidio ymuno'n ffurfiol a'r mudiad ei hun. Yn Noeth yn sefyll wrth y môr, 1929 mae Picasso'n defnyddio ffigwr o ferch mewn yn sefyll gyda'i breichiau uwch ei phen fel darlun clasurol ond ei chorff wedi'i ail-drefnu'n llwyr ganddo.

Yn ystod Yr Ail Ryfel Byd, arhosodd Picasso ym Mharis, er i'r Natsiaidd ystyried gelf fodern yn 'dirywiedig' (degenerate) gan ladd nifer o arlunwyr cyfoes. Dihangodd llawer o arlunwyr eraill i'r Unol Daleithiau i arbed eu bywydau. Yn wyrthiol roedd y Natsiaidd yn gyndyn i'w arestio oherwydd ei enwogrwydd, ond fe'i ymwelwyd nifer o weithiau gan y Gestapo. Yn ystod un archwiliad o'i fflat gwelodd Almaenwr ffoto o Guernica, gofynnodd i Picasso Chi wnaeth hwnna?. Na atebodd Chi wnaeth [10]

Ym 1944 fe'i ymunodd a'r Blaid Gomiwnyddol ac fe arhosodd yn aelod o'r blaid tan ei farwolaeth

Yn hynod o egnïol yn ystod degawdau olaf ei yrfa, cynhyrchodd Picasso mwy o waith nag unrhyw adeg arall o'i fywyd. Rhai o'r weithiau heb enw, dim ond dyddiad a rhif (I, II, III, ac yn y blaen.) wrth i gymaint o waith cael ei greu ar y diwrnod hwnnw. Mae ei waith ddiweddarach yn gymysgedd o arddulliau, ei ffordd o fynegiant yn newid o hyd.

Enwogrwydd[golygu | golygu cod]

Yn hynod o doreithiog trwy gydol ei fywyd hir, fe ddaeth Picasso'n yn o enwau mwyaf enwog y byd yn ystod ail hanner yr 20g gan ddod yn gyfoethog iawn am ei gampweithiau celfyddydol.

Murlun wedi'i wneud o deils yn seiliedig ar Guernica gan Pablo Picasso ym mhentref Gernika

Un o weithiau mwyaf adnabyddus Picasso yw ei ddarlun o fomio pentref Gernika, Gwlad y Basg yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen ar 26 Ebrill 1937. Mae'r cynfas mawr yn cynrychioli creulondeb, dioddefaint ac anobaith rhyfel. Pan ofynnwyd iddo egluro’r gwaith fe ddywedodd Picasso:

Nid y peintiwr yw'r un i ddiffinio'r symbolau. Fel arall buasai'n well i'r arlunydd i'w hysgrifennu mewn geiriau! Mae'n rhaid i'r cyhoedd sydd yn edrych ar y llun ei dadansoddi er mwyn iddynt ei ddeall.[11]

Merched Picasso[golygu | golygu cod]

Mae Picasso i fod wedi dweud:

Mae merched yn beiriannau ar gyfer dioddefaint.. I fi, mae dim ond ddwy fath – duwiesau a matiau stepen drws

wrth Françoise Gilot, un o'i gariadon, ym 1943. Yntau'n 61 a hithau'n fyfyriwr 21 oed. Cafodd Picasso perthnasau gyda nifer fawr o ferched - heb, mae'n debyg, gadw'n wir i'r rhan fwyaf ohonynt.

Ei gariad fawr gyntaf oedd Fernande Olivier (1881-1966) a gyfarfu ym 1904, yn gariadon nes 1911. O 1911 cafodd perthynas gyda Eva Gouel (1885-1915) nes iddi farw o ddiciâu (tuberculosis) ym 1915.

Gwraig gyntaf Picasso oedd Olga Khokhlova (1891-1954) nes iddynt wahanu ym 1935. O 1927 roedd Picasso hefyd yn gweld yn gudd Marie-Thérèse Walter (1909-1977), cawsant ferch Maia ym 1935. Fe gyflawnodd Olga hunanladdiad ym 1977. Rhwng 1936-1944 roedd Dora Maar (1907-1997) ei brif gariad, wedyn rhwng 1944-1953 Françoise Gilot (1921 - ) y cwpl yn cael dau o blant: Claude a Paloma.

Ail wraig Picasso oedd Jacqueline Roque (1927-1986), a briododd ym 1961. Fe saethodd ei hun ym 1986.[12]

Gwaith celf[golygu | golygu cod]

  • Lola Picasso, sœur de l'artiste (1894)
  • Portrait de la mère de l'artiste (1896)
  • Les demoiselles d'Avignon
  • L'aficionado (1912)
  • Guernica (1937)
  • Nature morte à la guitare (1942)
  • Portrait de femme au chapeau vert (1947)
  • Paysage mediterranéen (1952)
  • Sylvette (1954)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The Guitar, MoMA". Moma.org. Cyrchwyd 3 Chwefror 2012.
  2. "Sculpture, Tate". Tate.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-03. Cyrchwyd 3 Chwefror 2012.
  3. Green, Christopher (2003), Art in France: 1900–1940, New Haven, Conn: Yale University Press, p. 77, ISBN 0300099088, http://books.google.com/books?id=vlY6SLmg-xEC&pg=PA77&dq=#v=onepage&q&f=false, adalwyd 10 Chwefror 2013
  4. Searle, Adrian (7 Mai 2002). "A momentous, tremendous exhibition". Guardian. UK. Cyrchwyd 13 Chwefror 2010.
  5. Trachtman, Paul (Chwefror 2003). "Matisse & Picasso". Smithsonian. Smithsonianmag.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-08. Cyrchwyd 13 Chwefror 2010.
  6. "Duchamp's urinal tops art survey". news.bbc.co.uk. 1 Rhagfyr 2004. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2010.
  7. On-line Picasso Project, citing Selfridge, John, 1994.
  8. Cirlot, Juan-Eduardo (1972). Picasso: Birth of a Genius. New York and Washington: Praeger
  9. Palermo, Charles (2011). Picasso's False Gods: Authority and Picasso's Early Work. nonsite.org 1 (Chwefror 2011)
  10. http://www.artnet.com/magazine/features/stern/stern2-25-99.asp
  11. "Guernica Introduction". Pbs.org. Cyrchwyd 21 Chwefror 2009.
  12. http://www.telegraph.co.uk/culture/art/4610752/Pablo-Picassos-love-affair-with-women.html