Paul Cézanne

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Paul Cézanne
Paul cezanne 1861.jpg
Cézanne tua 1861
Ganwyd 19 Ionawr 1839(1839-01-19)
Aix-en-Provence, Ffrainc
Bu farw Hydref 22, 1906(1906-10-22) (67 oed)
Aix-en-Provence, Ffrainc
Yn enwog am Ôl-argraffiadaeth
(Post-Impressionism)
Galwedigaeth Arlunydd

Roedd Paul Cézanne (19 Ionawr 183922 Hydref 1906) yn beintiwr Ffrengig. Ystyrir ei waith arloesol yn ystod ail hanner y 19eg ganrif fel sylfaen i'r newidiadau radicalaidd a datblygodd yn y byd celf yr 20fed ganrif. Defnyddiodd ddarnau o liwiau a strociau brwsh bach i adeiladu astudiaethau cymhleth. Mae'r paentiadau’n cyfleu ei ystyriaeth ddwys o’r ffigwr neu’r tirwedd dan sylw.

Yn ddylanwad mawr ar Picasso, Matisse, Braque, Metzinger a nifer fawr o arlunwyr eraill. Mae Matisse a Picasso i fod wedi dweud bod Cézanne yn dad ini gyd.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd yn Aix-en-Provence de-ddwyrain Ffrainc, heb fod yn bell o'r ffin gyda'r Eidal. Gall y cyfenw Cézanne fod o dras Eidaleg[1]

Roedd ei dad yn gyfoethog, yn gyd-sylfaenydd banc, a oedd yn gallu sicrhau bywyd cyfforddus i’w fab, rhywbeth nad oedd yn bosib i'r rhan fwyaf o arlunwyr a oedd gorfod dibynnu ar werthu eu cynfasau yn unig.[2] Yn yr ysgol roedd yn ffrind agos gydag Émile Zola a aeth ymlaen i fod yn ysgrifennwr enwog.[3]

Astudiodd Cézanne y gyfraith ar ôl gadael yr ysgol i blesio ei dad, er gwaethaf ei diddordeb yn arlunio.[4] Ond cyn hir, gyd chryn anogaeth oddi wrth ei hen ffrind Zola a mawr siom ei dad, gadwodd y brifysgol ym 1861 i fyw ym Mharis i fod yn arlunydd. Serch hynny, yn ddiweddarach, derbyniodd Cézanne swm sylweddol iawn o arian mewn etifeddiaeth oddi wrth ei dad.[5]

Cézanne yr arlunydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Les joueurs de carte (Y Chwaraewyr Cardiau) - gwaith eiconig Cézanne, 1892-95, olew ar gynfas, 60 x 73 cm, Sefydliad Celf Courtauld, Llundain

O dan ddylanwad Romantisme a steil yr arlunwyr Argraffiadol (Impressionniste) cyntaf roedd gwaith cynnar Cézanne yn dueddol o fod yn dywyll. Datblygodd arddull gyda chyllell palet a alwodd yn caloreiddio a oedd yn cynnwys sawl llun treisgar o ferched, fel Merched yn gwisgo amdani, (tua 1867), Y Treisio (tua 1867) ac Y Llofruddiaeth (tua 1867-68) a ddangosodd ddyn yn trywanu merch wrth iddi gael ei dal i lawr gan ferch arall.

Ar ddechrau'r rhyfel Ffrainc-Prussia ym 1870, dihangodd Cézanne o Baris i L'Estaque yn Provence ble peintiodd tirluniau yn symud yn ôl i Baris ym 1871. Ym 1874 dangoswyd gwaith Cézanne yn arddangosfa gyntaf y grŵp Argraffiadaeth (Impressionnisme) ac ym 1877 y drydedd arddangosfa. Cyfarfu â'r peintiwr Camille Pissarro o'r grŵp a fu'n ddylanwad mawr arno, y ddau yn teithio trwy gefn gwlad Ffrainc i beintio tirluniau. Er gwaethaf ei lwyddiant a sylw cynyddol ym Mharis roedd well ganddo dychwelyd i Provence i beintio ar ben ei hun. O dan ddylanwad Pissaro rhoddodd y gorau i liwiau tywyll ac fe ddaeth ei gynfasau'n llawer ysgafnach a bywiog.[6]

Canolbwyntiodd Cézanne ar nifer cyfyngedig o bynciau – portreadau, tirluniau, bywyd llonydd ac astudiaethau o bobl yn nofio. Defnyddiodd lefydd, pobl a'r pethau o'i amgylch am y tri cyntaf: aelodau'r teulu a phentrefwyr ac ar gyfer y portreadau, tirwedd Provance am y tirluniau, a phethau fel ffrwythau ar gyfer y bywyd llonydd. Ond ar gyfer y nofwyr bu rhaid iddo ddylunio o'i ddychymyg oherwydd diffyg modelau.

Arbrofodd symleiddio ffurfiau naturiol i siapiau geometrig elfennol (er enghraifft - lleihau boncyff coeden i silindr - neu oren i belen). Arbrofodd hefyd sut i gyfleu dyfnderoedd a sawl safbwynt yn yr un llun.

Symudodd rhwng Paris a Provence nes iddo gael stiwdio yn Provance gyda ffenestri mawr i'w oleuo. Peintodd gyda Renoir yno ym 1882 a bu'n ymweld â Renoir a Monet in 1883. O hyn ymlaen arhosodd yn bennaf ym Provence, gan ddewis bywyd distaw a thirwedd ei hen filltir sgwâr dros brysurdeb y ddinas.

Mae ei hen dŷ yn Aix-en-Provence bellach ar agor i'r cyhoedd.[7]

Rhai o'i weithiau enwocaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Peintiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Bywyd llonydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyfrlliw[golygu | golygu cod y dudalen]

Portreadau a hunain-bortreadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. J. Lindsay Cézanne; his life and art, p.3
  2. "Paul Cézanne Biography (1839–1906)". Biography.com. http://www.biography.com/articles/Paul-Cezanne-9542036. Adalwyd 17 February 2007.
  3. "National Gallery of Art timeline, retrieved February 11, 2009". Nga.gov. http://www.nga.gov/exhibitions/2006/cezanne/chronology2.shtm. Adalwyd 19 January 2011.
  4. P. Cézanne Paul Cézanne, letters, p.10
  5. J. Lindsay Cézanne; his life and art, p.232
  6. Rosenblum 1989, p. 348
  7. http://www.cezanne-en-provence.com/page/en/15.xhtm

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Brion, Marcel (1974). Cézanne. Thames and Hudson. ISBN 0-500-86004-1. 
  • Chun, Young-Paik (2006). "Melancholia and Cézanne's Portraits: Faces beyond the mirror". In Griselda Pollock (ed.). Psychoanalysis and the Image. Routledge. ISBN 1-4051-3461-5. 
  • Cézanne, Paul; John Rewald; Émile Zola; Marguerite Kay (1941). Paul Cézanne, letters. B. Cassirer. ISBN 0-87817-276-9. 
  • Danchev, Alex (2012). Cézanne: A Life. Profile Books (UK); Pantheon (US). ISBN 978-1846681653. 
  • Gowing, Lawrence; Adriani, Götz; Krumrine, Mary Louise; Lewis, Mary Tompkins; Patin, Sylvie; Rewald, John (1988). Cézanne: The Early Years 1859–1872. Harry N. Abrams. 
  • Lehrer, Jonah (2007). "Paul Cézanne, The Process of Sight". In Jonah Lehrer. Proust Was a Neuroscientist. Houghton Mifflin Harcourt. ISBN 0-618-62010-9. 
  • Klingsor, Tristan (1923). Cézanne. Paris: Rieder. 
  • Lindsay, Jack (1969). Cézanne: His Life and Art. United States: New York Graphic Society. ISBN 0-8212-0340-1. 
  • Machotka, Pavel (1996). Cézanne: Landscape into Art. United States: Yale University Press. ISBN 0-300-06701-1. 
  • Pissarro, Joachim (2005). Cézanne & Pissarro Pioneering Modern Painting: 1865–1885. The Museum of Modern Art. ISBN 0-87070-184-3. 
  • Rosenblum, Robert (1989). Paintings in the Musée d'Orsay. New York: Stewart, Tabori & Chang. ISBN 1-55670-099-7.
  • Vollard, Ambroise (1984). Cézanne. England: Courier Dover Publications. ISBN 0-486-24729-5. 

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wikiquote
Mae gan Wikiquote gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i: