Yr Oriel Gelf Genedlaethol (UDA)
| |
Math |
oriel gelf ![]() |
---|---|
| |
Agoriad swyddogol |
1937 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Washington ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
38.89147°N 77.02001°W ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan |
Andrew W. Mellon ![]() |
Lleolir Oriel Gelf Genedlaethol (Saesneg: National Gallery of Art) Unol Daleithiau America yn Washington, D.C. Mae ei chasgliad yn cynnwys peintiadau, cerfluniau, gweithiau ar bapur a ffotograffau yn dyddio o'r 13g hyd at yr 20fed. Fe'i sefydlwyd ym 1937, yn seiliedig ar gasgliad y bancer Andrew W. Mellon. Agorowyd yr oriel i'r cyhoedd ym 1941. Mae pob gwaith yn yr oriel yn rhodd preifat; ni ddefnyddiwyd arian llywodraeth erioed i brynu gweithiau, er bod y llywodraeth yn cynnal y sefydliad mewn ffyrdd eraill. Mae mynediad i'r oriel yn rhad ac am ddim.[1]
Rhai o uchafbwyntiau'r casgliad[golygu | golygu cod y dudalen]
Leonardo da Vinci, Portread o Ginevra de' Benci
Raffael, Madonna Alba
Albrecht Dürer, Y Forwyn a'r Plentyn
Titian, Portread o Ranuccio Farnese
Titian, Gwener â Drych
El Greco, Laocoön
Rembrandt, Y Felin
Johannes Vermeer, Merch yn dal Clorian
Jacques-Louis David, Portread o Napoleon
Édouard Manet, Y Rheilffordd
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ National Gallery of Art. Llundain: Thames & Hudson. 2008. t. 7.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gwefan swyddogol (Saesneg)