Tiziano Vecellio
Tiziano Vecellio | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Veccellio, Tiziano ![]() |
Ganwyd | c. 1490 ![]() Pieve di Cadore ![]() |
Bu farw | 27 Awst 1576 ![]() Fenis ![]() |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fenis ![]() |
Galwedigaeth | arlunydd, drafftsmon, drafftsmon, gwneuthurwr printiau, artist ![]() |
Swydd | arlunydd llys ![]() |
Adnabyddus am | Merch â Drych, Coroniad Crist â Drain, Y Forwyn â'r Gwningen, Gwener Urbino, Portread o Siarl V ar Gefn Ceffyl, Pab Pawl III a'i Wyrion, Tarquinius a Lucretia, The Martyrdom of Saint Lawrence, Venus with a Mirror, Cherub, Mascarons, Saint John the Almoner, Simbolo dell'Evangelista Giovanni (aquila), Simbolo dell'Evangelista Luca (toro), Simbolo dell'Evangelista Marco (leone), Simbolo dell'Evangelista Matteo (angelo), Studies for Martyrdom of Saint Peter the Martyr, Two Satyrs in a Landscape ![]() |
Arddull | portread (paentiad), paentiadau crefyddol, paentiad mytholegol, noethlun, peintio hanesyddol, portread ![]() |
Mudiad | ysgol Fenis, yr Uchel Ddadeni ![]() |
Tad | Gregorio Vecellio ![]() |
Priod | Cecilia Soldano ![]() |
Plant | Orazio Vecellio, Tizianello, Lavinia Vecellio ![]() |
Llinach | teulu Vecellio ![]() |
Gwobr/au | Urdd y Sbardyn Aur ![]() |
llofnod | |
![]() |

Arlunydd o'r Eidal oedd Tiziano Vecellio (Almaeneg: Tizian, Ffrangeg: Titien, Saesneg: Titian; tua 1487 – 27 Awst 1576). Ystyrir ef yn un o arlunwyr pwysicaf y Dadeni.
Ganed Titian yn Pieve di Cadore, pentref yn y Dolomitau tua 190 km i'r gogledd o Fenis. Bu'n ddisgybl i Gentile Bellini ac yna i'w frawd, Giovanni. Dylanwad pwysig arall arno oedd Giorgione (tua 1477 – 1510).
Tua 1508, roedd Giorgione a Titian yn gyfrifol am waith ffresco ar y Fondaco dei Tedeschi yn Fenis. Yn 1511, arluniodd Titian waith ffresco yn y Scuola del Santo yn Padova. Yn 1516, daeth yn arlunydd swyddogol Gweriniaeth Fenis.
Yn 1532, gwnaeth yr Ymerawdwr Siarl V ef yn uchelwr. Yn y blynyddoedd 1530–40 bu'n gweithio yn Urbino. Yn 1545–46 bu yn Rhufain, ac yn 1548–1551 yn llys yr ymerawdwr yn Augsburg. Wedi marwolaeth Siarl, bu'n gweithio i Philip II, brenin Sbaen. Claddwyd ef yn y Basilica di Santa Maria Glorioso dei Frari, Fenis.
Gweithiau
[golygu | golygu cod]- Fenws Urbino a Flora yn yr Uffizi yn Fflorens
- Esgyniad Mair (Titian) a Madonna Pesaro yn y Basilica di Santa Maria Glorioso dei Frari yn Fenis
- Portread o Clarissa Strozzi yn y Gemäldegalerie, Berlin
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Bacchws ac Ariadne, 1520–3, Oriel Genedlaethol, Llundain
-
Marwolaeth Actaeon, 1559–75, Oriel Genedlaethol, Llundain
-
Blingo Marsyas, c. 1570–6
-
Violante, c. 1515
-
Portread o Andrea Gritti, Doge Fenis o 1523 i 1538
-
Portread o Federico II Gonzaga, c. 1525
-
Portread o Felipe II, c. 1554
-
Crist (rhan), 1553, Prado, Madrid
-
Crefydd a achubwyd gan Sbaen, 1572–5, Amgueddfa Prado, Madrid
-
Noli me tangere, 1514, Oriel Genedlaethol, Llundain