Tiziano Vecellio

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tiziano Vecellio
Titian - Self-Portrait (detail) - WGA22979.jpg
Ganwyd Tiziano Vecellio Edit this on Wikidata
15G Edit this on Wikidata
Pieve di Cadore Edit this on Wikidata
Bu farw 26 Medi 1576, 27 Awst 1576 Edit this on Wikidata (175 oed)
Achos: Pla Edit this on Wikidata
Fenis Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Gweriniaeth Fenis Edit this on Wikidata
Galwedigaeth arlunydd Edit this on Wikidata
Swydd arlunydd llys Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Merch â Drych, Coroniad Crist â Drain, Y Forwyn â'r Gwningen, Gwener Urbino, Portread o Siarl V ar Gefn Ceffyl, Pab Pawl III a'i Wyrion, Tarquinius a Lucretia Edit this on Wikidata
Arddull portread (paentiad), paentiadau crefyddol, paentiad mytholegol, nude Edit this on Wikidata
Mudiad ysgol Fenis, yr Uchel Ddadeni Edit this on Wikidata
Tad Gregorio Vecellio Edit this on Wikidata
Priod Cecilia Soldano Edit this on Wikidata
Plant Orazio Vecellio, Tizianello, Lavinia Vecellio Edit this on Wikidata
Llinach teulu Vecellio Edit this on Wikidata
Gwobr/au Marchog yn Urdd y Sbardyn Aur Edit this on Wikidata

Arlunydd Eidalaidd oedd Tiziano Vecellio (Almaeneg: Tizian, Ffrangeg: Titien, Saesneg: Titian; tua 148727 Awst 1576). Ystyrir ef yn un o arlunwyr pwysicaf y Dadeni.

Ganed Titian yn Pieve di Cadore, pentref yn y Dolomitau tua 190 km i'r gogledd o Fenis. Bu'n ddisgybl i Gentile Bellini ac yna i'w frawd, Giovanni. Dylanwad pwysig arall arno oedd Giorgione (tua 14771510).

Tua 1508, roedd Giorgione a Titian yn gyfrifol am waith ffresco ar y Fondaco dei Tedeschi yn Fenis. Yn 1511, arluniodd Titian waith ffresco yn y Scuola del Santo yn Padova. Yn 1516, daeth yn arlunydd swyddogol Gweriniaeth Fenis.

Yn 1532, gwnaeth yr Ymerawdwr Siarl V ef yn uchelwr. Yn y blynyddoedd 1530–40 bu'n gweithio yn Urbino. Yn 154546 bu yn Rhufain, ac yn 15481551 yn llys yr ymerawdwr yn Augsburg. Wedi marwolaeth Siarl, bu'n gweithio i Philip II, brenin Sbaen. Claddwyd ef yn y Basilica di Santa Maria Glorioso dei Frari, Fenis.

Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Galeri[golygu | golygu cod y dudalen]