Bern
Jump to navigation
Jump to search
- Mae'r erthygl yma yn trafod dinas Bern. Am ystyron eraill, gweler Bern (gwahaniaethu).
| Bern | |
|---|---|
| Lleoliad yn y Swistir | |
| Gwlad | Y Swistir |
| Llywodraeth | |
| Maer | Alexander Tschäppät |
| Daearyddiaeth | |
| Uchder | 542 m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 127515 (Cyfrifiad 2012) |
| Dwysedd Poblogaeth | 2471 /km2 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | CET (UTC+1),
Haf: CEST (UTC+2) |
| Gwefan | http://www.bern.ch |
Bern (Almaeneg: Bern; Ffrangeg: Berne) yw prifddinas y Swistir, ac hefyd brifddinas canton Bern. Gyda phoblogaeth o 127,318 (2004), hi yw'r bedwaredd dinas yn y Swistir o ran poblogaeth.
Saif y ddinas ar afon Aare. Enwyd hen ganol y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Sefydlwyd y ddinas bresennol gan y tywysog Berthold V van Zähringen yn 1191. Dywedir i'r ddinas gael ei henw oherwydd i'r tywysog ladd arth ar y safle. Yn 1218 daeth Bern yn ddinas rydd, a llwyddodd i ennill ei hannibyniaeth mewn dau ryfel. Ymunodd Bern a'r conffederasiwn Swisaidd yn 1323.