Tbilisi
| Math | Mkhare, dinas fawr, dinas, prifddinas cenedl, endid tiriogaethol gweinyddol |
|---|---|
| Poblogaeth | 1,118,035 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Kakha Kaladze |
| Cylchfa amser | UTC+04:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Georgeg, Abchaseg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Kartli |
| Gwlad | Georgia |
| Arwynebedd | 720 km² |
| Uwch y môr | 575 metr |
| Gerllaw | Afon Kura |
| Cyfesurynnau | 41.7225°N 44.7925°E |
| Cod post | 0100–0199 |
| GE-TB | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Tbilisi City Assembly |
| Pennaeth y Llywodraeth | Kakha Kaladze |
![]() | |
| Arian | Georgian lari |

Prifddinas a dinas fwyaf Gweriniaeth Georgia, ar lannau afon Kura (Mtkvari) yn nwyrain y wlad, yw Tbilisi (Georgeg: თბილისი). Daw'r ffurf bresennol ar yr enw o'r enw Georgeg Tpilisi sy'n tarddu o'r enw Armenieg Teplis a'r enw Groeg Tiflis; benthycwyd yr olaf i'r Rwseg ac o 1936 ymlaen ei henw swyddogol yn yr iaith honno yw Тифлис (Tiflis): mae'n dal i gael ei hadnabod felly weithiau heddiw mewn ieithoedd eraill. Mae gan y ddinas arwynebedd o 726 km² (280.3 milltir sgwar) a phoblogaeth o 1,093,000.

Sefydlwyd Tbilisi yn y 5g OC gan Vakhtang Gorgasali, Brenin Siorsaidd Kartli (Iberia), a daeth yn brifddinas y wlad yn y 6g. Heddiw mae Tbilisi yn ganolfan diwydiant a diwylliant bwysig sy'n gorwedd ar groesfan hanesyddol rhwng Ewrop ac Asia. Yn gorwedd ar un o ganghennau Llwybr y Sidan, mae Tbilisi wedi gweld sawl ymigprys am reolaeth arni yn ei hanes. Adlewychir hyn yn ei phensaernïaeth gyfoethog, gydag ardal fodern Rhodfa Rustaveli a'r cylch yn ymdoddi i strydoedd cul yr hen ardal ganoloesol Narikala.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Adeilad Gwasanaeth Fforddiau Tbilisi
- Eglwys Gadeiriol Sameba
- Eglwys Metekhi
- Narikala
- Senedd
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Alexander Orbeliani (1802-1869), bardd a dramodydd
- Rouben Mamoulian (1897-1987), cyfarwyddwr ffilm
- Boris Akunin (g. 1956), nofelydd
