Dinas Lwcsembwrg
| Math | bwrdeistref Lwcsembwrg, dinas, dinas fawr, y ddinas fwyaf, prifddinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 137,696 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Lydie Polfer |
| Cylchfa amser | CET, UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Prag, Camden, Metz |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Canton Lwcsembwrg |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 51.46 km² |
| Uwch y môr | 300 metr |
| Gerllaw | Alzette, Pétrusse, Zéissengerbaach, Q25584407, Drosbach |
| Yn ffinio gyda | Walferdange, Steinsel, Niederanven, Sandweiler, Hesper, Roeser, Leudelange, Bertrange, Strassen, Kopstal |
| Cyfesurynnau | 49.6106°N 6.1328°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Cyngor cymunedol Lwcsembwrg |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Luxembourg |
| Pennaeth y Llywodraeth | Lydie Polfer |
![]() | |
Prifddinas Archddugiaeth Lwcsembwrg yw Dinas Lwcsembwrg (Lwcsembwrgeg: Stad Lëtzebuerg; Ffrangeg: Ville de Luxembourg, Almaeneg: Luxemburg Stadt). Lleolir y ddinas wrth gyfaber afonydd Alzette a Pétrusse, yn Ne Lwcsembwrg, ac mae'n cynnwys Castell Lwcsembwrg, castell hanesyddol a sefydlwyd gan y Ffrancod yn gynnar yn yr Oesoedd Canol; tyfodd y ddinas o'i gwmpas.
Yn 2010, roedd poblogaeth Dinas Lwcsembwrg yn 100,000, sef tua theirgwaith mwy na'r commune' (cymuned) ail boblog yn y wlad. Y boblogaeth ddinasol, gyda communes Hesperange, Sandweiler, Strassen a Walferdange yw 103,973. Lleolir Dinas Lwcsembwrg yng nghanol Gorllewin Ewrop, 117 milltir o ddinas Brwsel, 179 milltir o Baris a 118 milltir o Cwlen.
Un o'r dinasoedd cyfoethocaf yn y byd yw Dinas Lwcsembwrg, am ei bod yn ganolfan bancio a gweinyddiaeth. Mae Dinas Lwcsembwrg wedi croesawu amryw o sefydliadau yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft Llys Cyfiawnder Ewrop, Llys Archwilwyr Ewropeaidd a'r Banc Buddsoddiadau Ewropeaidd.
