Y Fatican

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Dinas y Fatican)
Jump to navigation Jump to search
Y Fatican
Status Civitatis Vaticanae (Lladin)
Stato della Città del Vaticano (Eidaleg)
Coat of arms of the Vatican City.svg
Mathgwladwriaeth sofran Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlVatican Hill Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 11 Chwefror 1929 Edit this on Wikidata
AnthemInno e Marcia Pontificale Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethGiuseppe Bertello Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET, UTC+01:00, Europe/Vatican Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Eidaleg, Ffrangeg, Lladin Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd0.440297 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaYr Eidal, yr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.904°N 12.453°E Edit this on Wikidata
Cod post00120 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Gwladwriaeth Dinas y Fatican Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholComisiwn Pontifficaidd Dinas y Fatican Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
pab Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethPab Ffransis Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Llywydd y Comisiwn Pontifficaidd Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethGiuseppe Bertello Edit this on Wikidata
LocationVaticanCity.png
PerchnogaethEsgobaeth y Pab Edit this on Wikidata
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
ArianEwro Edit this on Wikidata

Gwladwriaeth Dinas y Fatican neu'r Fatican yw gwlad annibynnol leia'r byd a phencadlys yr Eglwys Gatholig. Mae wedi ei lleoli yng nghanol dinas Rhufain yn yr Eidal a'r Pab sydd yn ei llywodraethu. Mae gan y ddinas-wladwriaeth hon boblogaeth o tua 1,000 (2017)[1], ac arwynebedd o ddim ond 44 hectar (110 erw), a phoblogaeth o tua 1000.[2] Mae hyn yn ei gwneud yn wladwriaeth leiaf y byd, o ran arwynebedd a phoblogaeth.

Saif yn annibynnol o'r Eidal drwy Gytundeb Lateran (1929), ac mae'n diriogaeth benodol o dan "berchnogaeth lawn, goruchafiaeth unigryw, ac awdurdod ac awdurdodaeth sofran" Esgobaeth y Pab.

Mae'n wladwriaeth eglwysig ac yn frenhiniaeth-sacerdotal sef math o ddemocratiaeth a reolir gan y pab sy'n esgob Rhufain ac yn bennaeth yr Eglwys Gatholig.[2][3] Swyddogion y wladwriaethyw ei chlerigwyr Catholig, sydd o genedligrwydd amrywiol, rhyngwladol. Ar ôl Pabaeth Avignon (1309 – 1437),[4] mae'r pabau wedi preswylio'n bennaf yn y Palas Apostolaidd o fewn yr hyn sydd bellach yn Ddinas y Fatican, er eu bod weithiau'n byw yn lle hynny ym Mhalas Quirinal yn Rhufain neu fan arall.

Mae'r Babaeth (Saesneg: Holy See) yn dyddio'n ôl i Gristnogaeth Gynnar a dyma brif Babaeth yr Eglwys Gatholig, sydd â thua 1.329 miliwn o aelodau drwy'r byd, sy'n Gristnogion Catholig ac sydd wedi eu bedyddio.

Daeth gwladwriaeth annibynnol Dinas y Fatican i fodolaeth ar 11 Chwefror 1929 drwy Gytundeb Lateran rhwng yr Esgobaeth a'r Eidal, a'i disgrifiodd fel creadigaeth newydd,[5] nid fel aelod o Daleithiau'r Babaeth (756-1870), a oedd wedi cwmpasu llawer o ganol yr Eidal cyn hynny.

O fewn Dinas y Fatican saif adeiladau crefyddol a diwylliannol fel Basilica Sant Pedr, Capel Sistine, ac Amgueddfeydd y Fatican. Maent yn cynnwys rhai o baentiadau a cherfluniau enwocaf a mwyaf gwerthfawry byd. Canolbwynt y Fatican yw Basilica Sant Pedr, sydd yn ôl traddodiad wedi ei hadeiladu dros y fan lle claddwyd Sant Pedr. Cefnogir economi unigryw Dinas y Fatican yn ariannol gan roddion gan y ffyddloniaid, trwy werthu cofroddion, drwy dâl mynediad i'r amgueddfeydd, a thrwy werthu cyhoeddiadau.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Defnyddiwyd yr enw 'Dinas y Fatican' gyntaf yng Nghytundeb Lateran, a lofnodwyd ar 11 Chwefror 1929, a sefydlodd y ddinas-wladwriaeth fodern a enwyd ar ôl Bryn y Fatical, lleoliad daearyddol y wladwriaeth. Yr enw Lladin ar y bryncyn hwn yw Mons Vaticanus a'r enw Eidaleg, modern yw Colle Vaticano.

Mae "Fatican" yn deillio o enw anheddiad Etrwscaidd o'r enw 'Vatica' neu 'Vaticum', sydd wedi'u lleoli yn yr ardal yma a alwyd gan y Rhufeiniaid yn Ager Vaticanus, "tiriogaeth y Fatican".[6]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Hanes cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Obelisg y Fatican, a gymerwyd yn wreiddiol o'r Aifft gan yr Ymerawdwr Rhufeinig Caligula

Roedd yr enw "Fatican" eisoes yn cael ei ddefnyddio yn amser y Weriniaeth Rufeinig ar gyfer yr Ager Vaticanus, ardal gorsiog ar lan orllewinol y Tiber gyferbyn a dinas Rhufain, wedi'i lleoli rhwng y Janiculum, Bryn y Fatican a Monte Mario, i lawr i Fryn Aventine ac i fyny i gymer afon fechan y Cremera. [7]

Oherwydd ei bod mor agos i ddinas eu gelynion, yr Etrwsciaid, dinas Veii a gan fod y tir yn aml yn cael ei orlifo gan lifogydd y Tiber, roedd y Rhufeiniaid o'r farn bod y rhan hon o Rufain yn wreiddiol yn ansylweddol. ac yn lle salw.[8]

Golygfa o Sgwâr San Pedr o ben cromen Michelangelo

O dan yr Ymerodraeth Rufeinig, adeiladwyd llawer o filas yno, ar ôl i Agrippina Hynaf (14 CC - 18 Hydref 33 OC) ddraenio'r tir rwy greu ffosydd, a gosod ei erddi yn gynnar yn y ganrif 1af OC. Yn 40 OC , adeiladodd ei mab, yr Ymerawdwr Caligula syrcas ar gyfer cerbydau rhyfel (40 OC) a gwblhawyd yn ddiweddarach gan Nero, y Syrcas Gaii et Neronis , [9] a elwir fel arfer, yn syml, yn Syrcas Nero.[10]

Yn wreiddiol, cymerwyd Obelisk y Fatican gan Caligula o Heliopolis yn yr Aifft i addurno sbina ei syrcas ac felly dyma'i weddillion.[11] Yn eironig iawn, daeth yr ardal hon yn safle merthyrdod llawer o Gristnogion ar ôl Tân Mawr Rhufain yn 64 OC. Mae traddodiad hynafol yn honni mai yn y syrcas hon y croeshoeliwyd Sant Pedr wyneb i waered.[12]

Dehongliad cynnar o leoliad cymharol y syrcas, a'r Basilica canoloesol a chyfredol Sant Pedr.

Y Taleithiau Pabaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Penrhyn yr Eidal ym 1796. Mae'r Gwladwriaethau Pabaidd yng nghanol yr Eidal wedi'u lliwio'n borffor.

Yn raddol daeth y Pabau i chwarae rôl seciwlar fel llywodraethwyr rhanbarthau ger Rhufain. Fe wnaethant reoli Taleithiau'r Babaeth, a orchuddiodd gyfran fawr o Benrhyn yr Eidal, am fwy na mil o flynyddoedd tan ganol y 19g, pan atafaelwyd yr holl diriogaeth a oedd yn perthyn i'r babaeth gan Deyrnas newydd yr Eidal .

Am y rhan fwyaf o'r amser hwn, nid oedd y pabau'n byw yn y Fatican. Palas Lateran, yr ochr arall i Rufain, oedd eu preswylfa arferol am oddeutu mil o flynyddoedd. Rhwng 1309 a 1377, roeddent yn byw yn Avignon yn Ffrainc. Ar ôl dychwelyd i Rufain, dewison nhw fyw yn y Fatican ac fe symudon nhw i Balas Quirinal ym 1583, ar ôl i waith atgyweirio gael ei gwblhau o dan y Pab Pawl V (1605–1621), ond wedi cipio Rhufain ym 1870 ymddeolodd i'r Fatican, a daeth yr hyn a fu'n gartref iddynt yn eiddo i Frenin y yr Eidal.

Yr Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod y dudalen]

Band chwyth o 38fed Brigâd Byddin Prydain yn chwarae o flaen Basilica Sant Pedr, Mehefin 1944

Dilynodd yr Esgobaeth, a oedd yn rheoli Dinas y Fatican, bolisi niwtraliaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dan arweinyddiaeth y Pab Pïws XII. Er i fyddinoedd yr Almaen feddiannu dinas Rhufain ar ôl Cadoediad Cassibile ym Medi 1943, a'r Cynghreiriaid o 1944 ymlaen, roeddent yn parchu Dinas y Fatican fel tiriogaeth niwtral.[13] Un o brif flaenoriaethau diplomyddol esgob Rhufain oedd atal bomio'r ddinas; mor sensitif oedd y pontiff nes iddo wrthwynebu gollwng pamffledi gan awyrlu Prydain dros Rufain, gan honni bod yr ychydig bamffledi a laniodd o fewn y ddinas-wladwriaeth wedi torri niwtraliaeth y Fatican.[14] Polisi Prydain, fel y mynegwyd yng nghofnodion cyfarfod Cabinet, oedd: "na ddylem amharu ar Ddinas y Fatican ar unrhyw gyfrif, ond y byddai ein gweithred o ran gweddill Rhufain yn dibynnu ar ba mor bell y gwnaeth llywodraeth yr Eidal gadw at reolau Rhyfel".[14]

Ar ôl i'r Unol Daleithiau ymuno â'r rhyfel, gwrthwynebonhw fomio o'r fath, gan ofni troseddu aelodau Catholig o'u byddin, ond dywedon nhw "na allen nhw atal y Prydeinwyr rhag bomio Rhufain pe bai'r Prydeinwyr yn penderfynu gwneud hynny". Roedd milwrol yr Unol Daleithiau hyd yn oed yn eithrio peilotiaid a chriw Catholig rhag cyrchoedd awyr ar Rufain a daliadau Eglwys eraill. Dywedodd y Prydeinwyr yn ddigyfaddawd “y byddent yn bomio Rhufain pan oedd anghenion y rhyfel yn mynnu hynny”.[15]

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Map o Ddinas y Fatican, yn tynnu sylw at adeiladau nodedig a gerddi’r Fatican

Mae tiriogaeth Dinas y Fatican yn rhan o Fryn y Fatican, ac o hen Gaeau'r Fatican gerllaw.[7] Yn y fan hon y codwyd Basilica Sant Pedr, y Palas Apostolaidd, Cappella Sistina, ac amgueddfeydd, ynghyd ag amryw o adeiladau eraill. Roedd yr ardal yn rhan o rione Rhufeinig Borgo tan 1929. Gan ei bod wedi gwahanu oddi wrth y ddinas gan afon Tiber, roedd yr ardal yn rhan o'r ddinas a ddiogelwyd trwy gael ei chynnwys o fewn muriau y Pab Leo IV (847-855), a'i ehangu'n ddiweddarach gan y waliau amddiffynfa presennol, a adeiladwyd o dan Pab Pawl III (1534–1549), y Pab Pïws IV (1559–1565), a'r Pab Urbanus VIII (1623–1644).

Tiriogaeth Dinas-wladwriaeth y Fatican yn ôl Cytundeb Lateran

Pan oedd Cytundeb Lateran 1929 a roddodd ei ffurf i'r wladwriaeth yn cael ei baratoi, dylanwadwyd ar ffiniau'r ardal arfaethedig gan y ffaith bod llawer ohoni wedi'i hamgáu o fewn y muriau hyn. Ar gyfer rhai darnau o'r ffin, nid oedd wal, ond roedd llinell rhai adeiladau'n cyflenwi rhan o'r ffin, ac ar gyfer rhan fach o'r ffin adeiladwyd wal fodern.

Mae'r diriogaeth yn cynnwys Sgwâr Sant Pedr, sydd ar wahân i diriogaeth yr Eidal, ac wedi'i farcio felly gan linell wen ar hyd terfyn y sgwâr, lle mae'n cyffwrdd â Piazza Pio XII. Gellir cyrraedd Sgwâr San Pedr trwy'r Via della Conciliazione sy'n rhedeg yn agos at y Tiber. Adeiladwyd yr adeiladau mawreddog hyn gan Benito Mussolini ar ôl arwyddo Cytundeb Lateran.

Mae Castel Gandolfo a'r basilicas a enwir yn cael eu patrolio'n fewnol gan asiantau heddlu Dinas-wladwriaeth y Fatican ac nid gan heddlu'r Eidal. Yn ôl Cytundeb Lateran (Erthygl 3) mae Sgwâr San Pedr, hyd at (ond heb gynnwys) y grisiau sy'n arwain at y basilica, fel arfer yn cael ei batrolio gan heddlu'r Eidal.[16]

Nid oes unrhyw reolaethau pasbort ar gyfer ymwelwyr sy'n dod i mewn i Ddinas y Fatican o'r diriogaeth Eidalaidd gyfagos. Mae mynediad cyhoeddus am ddim i Sgwâr Sant Pedr a'r Basilica ac, ar achlysuron Pabaidd, i'r neuadd y maent yn cael ei chynnal ynddi. Ar gyfer y cynulleidfaoedd hyn ac ar gyfer seremonïau mawr yn y Basilica a Sgwâr Sant Pedr, rhaid cael tocynnau am ddim ymlaen llaw. Mae Amgueddfeydd y Fatican, sy'n ymgorffori'r Capel Sistine (y Cappella Sistina), fel arfer yn codi ffi mynediad. Nid oes mynediad cyhoeddus cyffredinol i'r gerddi, ond gellir trefnu teithiau tywys i grwpiau bach i'r gerddi a'r cloddiadau o dan y basilica. Mae lleoedd eraill yn agored i'r unigolion hynny sydd â busnes i drafod yno yn unig.

Sgwâr Sant Pedr, y basilica (yr eglwys ei hun) a'r obelisg, o Piazza Pio XII

Gerddi[golygu | golygu cod y dudalen]

O fewn tiriogaeth Dinas y Fatican mae Gerddi’r Fatican (Eidaleg: Giardini Vaticani ),[17] sef oddeutu hanner y diriogaeth yr ardal. Mae'r gerddi, a sefydlwyd yn ystod oes y Dadeni Dysg a'r Baróc, wedi'u haddurno â ffynhonnau a cherfluniau.

Mae'r gerddi yn gorchuddio oddeutu 23 hectar (57 erw). 60 metr (197 tr) o lefel y môr yw pwynt uchaf y Fatican.

Mae'r gerddi'n dyddio i'r oesoedd canol pan oedd perllannau a gwinllannoedd yn ymestyn i'r gogledd o'r Palas Apostolaidd Pabaidd.[18] Yn 1279, symudodd y Pab Nicholas III (Giovanni Gaetano Orsini, 1277–1280) ei breswylfa yn ôl i'r Fatican o Balas Lateran ac amgeuwyd yr ardal hon gan waliau.[19] Plannodd berllan (pomerium), lawnt (pratellum), a gardd (viridarium).[19]

A panorama of gardens and several buildings viewed from St. Peter's Basilica
Panorama of the gardens viewed from St. Peter's Basilica

Llywodraethu[golygu | golygu cod y dudalen]

Palas Llywodraethiaeth Gwladwriaeth Dinas y Fatican

Mae gwleidyddiaeth Dinas y Fatican yn digwydd mewn brenhiniaeth ddewisol absoliwt, lle mae pennaeth yr Eglwys Gatholig mewn grym. Mae'r pab yn arfer prif bŵer deddfwriaethol, gweithredol a barnwrol dros Dalaith Dinas y Fatican (endid sy'n wahanol i'r Babaeth), sy'n achos prin o frenhiniaeth an-etifeddol.

Dinas y Fatican yw un o'r ychydig wladwriaeth annibynnol a gydnabyddir yn eang nad yw wedi dod yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig.[20] Mae gan y Babaeth, sy'n wahanol i Ddinas-wladwriaeth y Fatican, statws arsylwr parhaol gyda holl hawliau aelod llawn heblaw am bleidlais yng Nghynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

System wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan lywodraeth Dinas y Fatican strwythur unigryw: y pab yw sofran y wladwriaeth. Breiniwyd yr awdurdod deddfwriaethol yng Nghomisiwn Esgobol Dinas-wladwriaeth y Fatican, corff o gardinaliaid a benodwyd gan y pab am gyfnodau o bum mlynedd. Mae pŵer gweithredol yn nwylo llywydd y comisiwn hwnnw, gyda chymorth yr ysgrifennydd cyffredinol a'r dirprwy ysgrifennydd cyffredinol. Ymddiriedir cysylltiadau tramor y wladwriaeth i Ysgrifenyddiaeth Wladwriaeth a gwasanaeth diplomyddol y Babaeth. Serch hynny, mae gan y pab bwer llwyr yn y canghennau ecseciwtif (gweithredol), deddfwriaethol a barnwrol dros Ddinas y Fatican.[21] Fel “Tywysog” ex officio Dinas y Fatican, y Pab yw’r unig unben absoliwt drwy Ewrop.[22][23]

Ceir yma adrannau sy'n delio ag iechyd, diogelwch, telathrebu ac ati. [21]

Mae Dinas-wladwriaeth y Fatican, a grëwyd ym 1929 gan y Lateran Pacts, yn darparu awdurdodaeth ac annibyniaeth i'r Babaeth o fewn tiriogaeth fach. Mae'n wahanol i'r Babaeth. Felly gellir ystyried bod y wladwriaeth yn offeryn arwyddocaol a phwysig (ond nid hanfodol) y Babaeth. Mae'r Babaeth ei hun wedi bodoli'n barhaus fel endid cyfreithlon ers cyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig ac mae wedi'i gydnabod yn rhyngwladol fel endid sofran pwerus ac annibynnol o Oes y Seintiau (4g - 8g) hyd heddiw, heb ymyrraeth hyd yn oed ar adegau pan gafodd ei amddifadu o diriogaeth (ee 1870 i 1929 ). Mae gan y Babaeth wasanaeth diplomyddol parhaus gweithredol hynaf yn y byd, sy'n dyddio i 325 OC o leiaf.[24]

Pennaeth y wladwriaeth a'r llywodraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Palas Apostolaidd ( Palazzo Apostolico ), preswylfa swyddogol y Pab. Yma, mae Benedict XVI wrth y ffenestr wedi'i marcio â baner piws yn hongian o'r silff ffenestr

Mae'r Pab yn bennaeth y wladwriaeth ex officio[25] Dinas y Fatican, ers y 1860au, ac mae hefyd yn esgob esgobaeth Rhufain. Mae'r term "y Babaeth" yn cyfeirio nid at wladwriaeth y Fatican ond at lywodraethu ysbrydol a bugeiliol y Pab, a arferir i raddau helaeth trwy'r Curia Rhufeinig (sef Llys y Pab).[26] Ei deitl swyddogol mewn perthynas â Dinas y Fatican yw 'Sofran Talaith Dinas y Fatican'.

Gweinyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Caiff swyddogaethau deddfwriaethol eu dirprwyo i'r Comisiwn un siambr Esgobol dros Wladwriaeth Dinas y Fatican, dan arweiniad Llywydd y Comisiwn Esgobol dros Wladwriaeth Dinas y Fatican. Mae ei saith aelod yn gardinaliaid a benodwyd gan y Pab am dymor o bum mlynedd. Rhaid i weithredoedd y comisiwn gael eu cymeradwyo gan y Pab, trwy Ysgrifenyddiaeth Gwladwriaeth y Babaeth, a chyn dod i rym rhaid eu cyhoeddi mewn atodiad arbennig o'r Acta Apostolicae Sedis. Mae'r rhan fwyaf o gynnwys yr atodiad hwn yn cynnwys archddyfarniadau gweithredol arferol, megis cymeradwyo set newydd o stampiau post.

Dirprwyir awdurdod gweithredol, ecseciwtif i i Lywodraethiaeth Dinas y Fatican, sy'n cynnwys Llywydd y Comisiwn Esgobol - gan ddefnyddio'r teitl "Llywydd Llywodraethiaeth Dinas y Fatican", sef: ysgrifennydd cyffredinol, ac Is-ysgrifennydd cyffredinol, pob un wedi'i benodi gan y Pab am dymor pum mlynedd. Rhaid i gamau pwysig y Llywodraethiaeth gael eu cadarnhau gan y Comisiwn Esgobol a chan y Pab trwy Ysgrifenyddiaeth y Wladwriaeth.

Amddiffyn a diogelwch[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwarchodwr o'r Fatican wrth ei flwch sentry

Gan fod Dinas y Fatican yn amgaead oddi fewn i'r Eidal, darperir ei amddiffyniad milwrol gan Lluoedd Arfog yr Eidal. Fodd bynnag, nid oes cytundeb amddiffyn ffurfiol gyda'r Eidal, gan fod Dinas y Fatican yn wladwriaeth niwtral. Nid oes gan Ddinas y Fatican luoedd arfog ei hun, er bod Corfflu'r Swistir yn gorfflu milwrol o'r Babaeth sy'n gyfrifol am ddiogelwch personol y Pab, a thrigolion y wladwriaeth. Mae gan filwyr Gwarchodlu'r Swistir hawl i ddal pasbortau a chenedligrwydd Dinas-wladwriaeth y Fatican. Yn hanesyddol, recriwtiwyd hurfilwyr o'r Swistir gan y pabau, fel rhan o fyddin ar gyfer y Taleithiau Pabaidd, a sefydlwyd Gwarchodlu Esgobol y Swistir gan y Pab Iŵl II ar 22 Ionawr 1506 fel gwarchodwr corff personol y pab ac mae'n parhau i gyflawni'r swyddogaeth honno hyd heddiw. Fe'i rhestrir yn yr Annuario Pontificio o dan "yr Esgoboaeth" (neu'r Holy See yn Saesneg; Sancta Sedes yn Lladin). Ar ddiwedd 2005, roedd gan y Gwarchodlu 134 aelod.

Trefnir recriwtio trwy gytundeb arbennig rhwng yr Esgobaeth a'r Swistir. Rhaid i bob recriwt fod yn wryw Catholig, dibriod â dinasyddiaeth Swistir, sydd wedi cwblhau ei hyfforddiant sylfaenol gyda Lluoedd Arfog y Swistir gyda thystysgrifau ymddygiad da,. Rhaid hefyd bod rhwng 19 a 30 oed, a thaldra o leiaf 174 cm (5tr 9 mod). Mae gan yr aelodau wn ac fe'u hyfforddir mewn tactegau gwarchod person. Diddymwyd y Palatine Guard a'r Noble Guard, lluoedd arfog olaf Talaith Dinas y Fatican, gan y Pab Paul VI ym 1970.[27][28]

Golygfa 360-gradd o gromen Basilica Sant Pedr, gan edrych dros Sgwâr Sant Pedr ac yna Rhufain.

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Amgueddfeydd y Fatican ( Musei Vaticani ) yn arddangos gweithiau o gasgliad helaeth yr Eglwys Gatholig

Mae Dinas y Fatican yn gartref i rai o'r darnau celf enwocaf yn y byd. Ymhlith pensaeri Basilica Sant Pedr, mae Bramante, Michelangelo, Giacomo della Porta, Maderno ac mae Bernini yn enwog am eibensaernïaeth o oes y Dadeni. Ffresgos yw uchafbwynt celfyddol y Capel Sistine ac maent yn cynnwys gweithiau gan Perugino, Domenico Ghirlandaio a Botticelli yn ogystal â'r nenfwd a'r 'Farn Olaf' (Lladin: Il Giudizio Universale) gan Michelangelo. Ymhlith yr artistiaid a addurnodd du mewn y Fatican mae Raphael a Fra Angelico.

Mae Llyfrgell Apostolaidd y Fatican a chasgliadau Amgueddfeydd y Fatican o'r pwysigrwydd hanesyddol, gwyddonol a diwylliannol mwyaf. Ym 1984, ychwanegwyd y Fatican gan UNESCO at y Rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd; dyma'r unig safle sy'n wladwriaeth gyfan.[29] Ar ben hynny, dyma'r unig safle hyd yma sydd wedi'i gofrestru gyda'r UNESCO fel canolfan sy'n cynnwys henebion yn y "Gofrestr Ryngwladol o Eiddo Diwylliannol o dan Amddiffyniad Arbennig" yn ôl Confensiwn yr Hâg 1954 ar gyfer Diogelu Eiddo Diwylliannol os bydd Gwrthdaro Arfog.[29]

Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Chwaraeir pencampwriaeth pêl-droed, o'r enw Pencampwriaeth Dinas y Fatican, gydag wyth tîm, gan gynnwys, er enghraifft, FC Guardia y Swistir a thimau gwarchod yr heddlu ac amgueddfeydd.[30]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "The World Factbook"; pennod: Holy See (Vatican City); cyhoeddwr: CIA.
  2. 2.0 2.1 "Holy See (Vatican City)". CIA—The World Factbook. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2011. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "factbook" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  3. "Vatican City". Catholic-Pages.com. Cyrchwyd 12 August 2013.
  4. Including the French anti-popes of the Western Schism
  5. "Preamble of the Lateran Treaty" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 10 October 2017. Cyrchwyd 21 July 2014.
  6. Richardson, New Topographical Dictionary of Ancient Rome, p. 405
  7. 7.0 7.1 Liverani 2016, t. 21
  8. Parisi Presicce & Petacco 2016, t. 11
  9. Lanciani, Rodolfo (1892).
  10. "Vatican City in the Past".
  11. Pliny the Elder, Natural History XVI.76.
  12. "St. Peter, Prince of the Apostles". Catholic Encyclopedia. Cyrchwyd 12 August 2013.
  13. "Rome". Ushmm.org. Cyrchwyd 12 December 2013.
  14. 14.0 14.1 Chadwick, 1988, pp. 222–32
  15. Chadwick, 1988, pp. 232–36
  16. "Patti Lateranensi". vatican.va. Cyrchwyd 6 November 2013.
  17. "Map of Vatican City". saintpetersbasilica.org. Cyrchwyd 11 October 2009.
  18. "Al Pellegrino Cattolico: The Vatican Gardens". 2008 Al Pellegrino Cattolico s.r.l. Via di Porta Angelica 81\83 (S.Pietro) I- 00193 Roma, Italy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 April 2008. Cyrchwyd 21 November 2008.
  19. 19.0 19.1 "Official Vatican City State Website: A Visit to the Vatican Gardens". 2007–08 Uffici di Presidenza S.C.V. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 November 2008. Cyrchwyd 21 November 2008.
  20. Section, United Nations News Service (7 February 2017). "UN News - FEATURE: Diplomacy of the conscience – The Holy See at the United Nations". UN News Service Section (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 February 2018.
  21. 21.0 21.1 [httsp://www.catholic-pages.com/vatican/vatican_city.asp "Vatican City"]. Catholic-Pages.com. Cyrchwyd 4 March 2007. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "Vatican City" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  22. Etehad, Melissa “Not all monarchs have lost power.
  23. Learning with the Times: 7 Nation Still Under Absolute Monarchy”, The Times of India, Published 10 November 2008. m.timesofindia.com/india/Learning-with-the-Times-7-nations-still-under-absolute-monarchy/articleshow/3692953.cms.
  24. "Vatican Diplomacy".
  25. One of the titles of the Pope listed in the Annuario Pontificio is "Sovereign of Vatican City State" (page 23* in recent editions).
  26. "Code of Canon Law: text – IntraText CT".
  27. "Vatican City Today". Vatican City Government. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 December 2007. Cyrchwyd 28 November 2007.
  28. Duursma, Jorri C. (1996). Fragmentation and the International Relations of Micro-states: Self-determination and Statehood. Cambridge University Press. t. 396. ISBN 9780521563604.
  29. 29.0 29.1 "Vatican City – UNESCO World Heritage Centre". UNESCO. Cyrchwyd 10 October 2009.
  30. "Life in the Guard". Pontifical Swiss Guard. Cyrchwyd 10 September 2016.