Camden (Bwrdeistref Llundain)
| Arwyddair | Non Sibi Sed Toti |
|---|---|
| Math | Bwrdeistref Llundain, ardal ddi-blwyf |
| Ardal weinyddol | Llundain Fawr |
| Poblogaeth | 262,226 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Georgia Gould |
| Gefeilldref/i | Abu Dis, Dinas Lwcsembwrg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Llundain Fawr (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 21.7895 km² |
| Yn ffinio gyda | Dinas Westminster, Dinas Llundain, Brent, Barnet, Haringey, Islington |
| Cyfesurynnau | 51.5428°N 0.1594°W |
| Cod SYG | E09000007, E43000197 |
| Cod post | EC, N, NW, W, WC |
| GB-CMD | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | cabinet of Camden borough council |
| Corff deddfwriaethol | council of Camden London Borough Council |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Leader of Camden Borough Council |
| Pennaeth y Llywodraeth | Georgia Gould |
![]() | |
Bwrdeistref yn Llundain Fwyaf, Lloegr, yw Bwrdeistref Llundain Camden neu Camden (Saesneg: London Borough of Camden). Mae'n rhan o Lundain Fewnol. Fe'i lleolir yn union i'r gogledd o ganol Llundain; mae'n ffinio â Westminster i'r de, Dinas Llundain i'r de-ddwyrain, Islington i'r dwyrain, Haringey a Barnet i'r gogledd, a Brent i'r gorllewin. Felly mae'n ymestyn o ardaloedd Holborn a Bloomsbury yn y de i fyny tuag at Hampstead Heath yn y gogledd.
Ynddi ceir nifer o atyniadau a chyrff cyhoeddus neu breifat pwysig, megis yr Amgueddfa Brydeinig, Amgueddfa Syr John Soane, y Llyfrgell Prydeinig, Ysbyty Great Ormond Street, Sŵ Llundain, Marchnad Camden, Coleg Prifysgol Llundain a gorsafoedd rheilffordd St. Pancras, King's Cross a Euston.

Ardaloedd
[golygu | golygu cod]Mae'r bwrdeistref yn cynnwys yr ardaloedd canlynol:
Trafnidiaeth
[golygu | golygu cod]Underground Llundain
[golygu | golygu cod]Mae nifer o orsafoedd Underground o fewn y fwrdeistref:
- King's Cross St. Pancras
- Euston
- Euston Square
- Warren Street
- Goodge Street
- Mornington Crescent
- Camden Town
- Chalk Farm
- Belsize Park
- Hampstead
- West Hampstead
- Finchley Road
- Swiss Cottage
- Kentish Town
Gorsafoedd rheilffordd
[golygu | golygu cod]Ar rwydwaith Overground Llundain rhed Lein Gogledd Llundain trwy'r gorsafoedd canlynol:
a rhed Lein Watford DC o Euston i South Hampstead.
