Llundain Fewnol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Llundain Fewnol
LondonInner.png
Mathendid tiriogaethol, grŵp, endid tiriogaethol gweinyddol Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolLlundain Fawr
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd319 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5084°N 0.1254°W Edit this on Wikidata

Grŵp o fwrdeistrefi Llundain sy'n ffurfio canol Llundain Fwyaf, Lloegr, yw Llundain Fewnol (Saesneg: Inner London). Mae'r ardal hon wedi'i hamgylchynu gan Llundain Allanol. Defnyddiwyd yr enw Inner London i ddynodi ardal llywodraeth leol rhwng 1855 a 1965 yn bennaf fel Sir Llundain neu'n gynharach fel y "Metropolitan Board of Works Area". Bellach mae ganddo ddau ddiffiniad cyffredin.

Y cyntaf yw'r diffiniad statudol a amlinellir yn Deddf Llywodraeth Llundain 1963, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 1965, yn cynnwys y deuddeg bwrdeistref ganlynol; mae hyn bron yr un peth â Sir Llundain a gafodd ei diddymu ar yr un pryd:

Yr ail yw'r diffiniad a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n cynnwys y deuddeg bwrdeistref a restrir uchod, ac eithrio Greenwich, ond hefyd yn cynnwys Haringey a Newham yn ogystal â Dinas Llundain, nad yw'n fwrdeistref, a bod yn fanwl gywir.