Kensington a Chelsea (Bwrdeistref Frenhinol)
| Arwyddair | Quam Bonum in Unum Habitare |
|---|---|
| Math | Bwrdeistref Llundain, ardal ddi-blwyf |
| Ardal weinyddol | Llundain Fawr |
| Prifddinas | Kensington |
| Poblogaeth | 156,197 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Elizabeth Campbell |
| Gefeilldref/i | Cannes |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Llundain Fawr (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 12.1238 km² |
| Yn ffinio gyda | Dinas Westminster, Wandsworth, Hammersmith a Fulham, Brent |
| Cyfesurynnau | 51.5022°N 0.1953°W |
| Cod SYG | E09000020, E43000210 |
| Cod post | NW, SW, W |
| GB-KEC | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | leadership team of Kensington and Chelsea borough council |
| Corff deddfwriaethol | council of Kensington and Chelsea London Borough Council |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | leader of Kensington and Chelsea borough council |
| Pennaeth y Llywodraeth | Elizabeth Campbell |
![]() | |
Bwrdeistref yn Llundain Fwyaf, Lloegr, yw Bwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea neu Kensington a Chelsea (Saesneg: Royal Borough of Kensington and Chelsea; Anffurfiol: "RBK" neu "RBK and C"). Mae'n rhan o Lundain Fewnol. Fe'i lleolir ar lan ogleddol Afon Tafwys; mae'n ffinio â Hammersmith a Fulham i'r gorllewin, Brent i'r gogledd, a Westminster i'r dwyrain; saif gyferbyn â Wandsworth ar lan ddeheuol yr afon.

Ardal ddinesig ydwy, ac yn ôl Cyfrifiad 2001 dyma awdurdod lleol mwyaf dwys ei phoblogaeth yn y Deyrnas Unedig gyda 13,244 person i bob cilometr sgwâr. Mae hefyd yn un o dair bwrdeistref yn Llundain Fwyaf a ddynodir yn "Fwrdeistref Frenhinol" (Saesneg: Royal Borough). Yr eraill yw Bwrdeistref Frenhinol Kingston upon Thames a Bwrdeistref Frenhinol Greenwich.
Lleolir yn union i'r gorllewin o Ddinas Llundain ac i'r dwyrain o fwrdeistref Hammersmith a Fulham. Ynddi mae siop adrannol Harrods; carnifal mwyaf Ewrop, sef Carnifal Notting Hill; a nifer o lysgenhadaethau yn ardaloedd Belgravia a Knightsbridge. Mae hefyd yn gartref i rai o ardaloedd preswyl drutaf y byd.
Ardaloedd
[golygu | golygu cod]Mae'r bwrdeistref yn cynnwys yr ardaloedd canlynol:
- Bayswater (Rhan)
- Belgravia
- Brompton
- Chelsea
- De Kensington
- Earl's Court
- Gogledd Kensington
- Holland Park
- Kensal Town
- Kensington
- Kensington High Street
- Knightsbridge (Rhan)
- Ladbroke Grove
- Notting Hill
- West Brompton
- West Kensington (Rhan)
- Westbourne Park
Atyniadau a sefydliadau nodedig
[golygu | golygu cod]Mae nifer o atyniadau a sefydliadau nodedig o fewn y fwrdeistref:
- Amgueddfa Hanes Natur Llundain
- Amgueddfa Victoria ac Albert
- Yr Amgueddfa Wyddoniaeth
- Coleg Imperial Llundain (rhan)
- Earl's Court
- Harrods
- Kensington High Street
- King's Road
- Ladbroke Grove
- Notting Hill Gate
- Olympia (rhan)
- Oratori Brompton
- Oriel Saatchi
- Palas Kensington
- Portobello Road
- Sloane Street
- Ysbyty Brenhinol Chelsea
