Belgravia
Gwedd
| Math | ardal o Lundain |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Belgrave |
| Ardal weinyddol | Dinas Westminster, Bwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | canol Llundain |
| Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.498°N 0.1545°W |
| Cod OS | TQ275795 |
| Cod post | SW1X, SW1W |
![]() | |
Ardal yng ngorllewin Llundain yw Belgravia, a leolir ym mwrdeistrefi Dinas Westminster a Kensington a Chelsea. Datblygwyd yr ardal yn y 19g gan y teulu Grosvenor, sydd bellach yn dwyn y teitl Dug Westminster. Enwir yr ardal ar ôl y prif sgwâr sydd yno, sef Belgrave Square, ac mae'r enw hwnnw yn cyfeirio at bentref Belgrave, rhan o ystâd y teulu Grosvenor yn Swydd Gaer.[1] Enwir y strydoedd Halkin Street, West Halkin Street a Halkin Place ar ôl Castell Helygain, ystâd y teulu yn Sir y Fflint.[2] Mae nifer fawr o lysgenadaethau yn yr ardal, yn enwedig o gwmpas Belgrave Square.[3]
-
Belgrave Square
-
West Halkin Street
-
Halkin Arcade
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Bradley, Simon; Pevsner, Nikolaus (2003), London: Westminster, The Buildings of England, 6, Llundain a New Haven: Gwasg Prifysgol Yale, p. 727
- ↑ (Saesneg) Discover a History: Walking in Belgravia, Grosvenor, http://www.grosvenorlondon.com/getattachment/our-customers/Residential/WALKING-IN-BELGRAVIA.pdf, adalwyd 23 Mehefin 2018
- ↑ (Saesneg) Belgravia Conservation Area General Information Leaflet, Cyngor Dinas Westminster, Mai 2004, http://transact.westminster.gov.uk/docstores/publications_store/23%20Belgravia.pdf, adalwyd 23 Mehefin 2018
