Castell Helygain
Gwedd
Math | castell |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Helygain |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 223 metr |
Cyfesurynnau | 53.2294°N 3.18572°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Lleolir Castell Helygain (Saesneg: Halkyn Castle) yn Helygain, Sir y Fflint. Mae'n ffug gastell a godwyd yn y 19g ar gyfer y teulu Grosvenor, a oedd yn berchnogion ar weithfeydd plwm yn yr ardal. Fe'i adeiladwyd rhwng 1824 a thua 1827 i gynlluniau John Buckler ar gyfer Robert Grosvenor, Iarll Grosvenor ar y pryd ac Ardalydd 1af Westminster yn hwyrach. Roedd yr adeilad gwreiddiol yn blasty gymharol fychan yn yr arddull Gothig Tuduraidd. Ychwanegwyd estyniad i'r plasty gan y penseiri Douglas a Fordham ar gyfer Dug 1af Westminster ym 1886.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hubbard, Edward (1986), Clwyd (Denbighshire and Flintshire), The Buildings of Wales, Harmondsworth: Penguin, p. 359