Dinas Westminster
| Arwyddair | Custodi Civitatem Domine |
|---|---|
| Math | Bwrdeistref Llundain, ardal gyda statws dinas, dinas, ardal ddi-blwyf |
| Ardal weinyddol | Llundain Fawr |
| Prifddinas | Westminster |
| Poblogaeth | 211,365 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Nickie Aiken |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Llundain Fawr (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 21.487 km² |
| Yn ffinio gyda | Camden, Kensington a Chelsea, Brent, Lambeth, Wandsworth, Dinas Llundain |
| Cyfesurynnau | 51.4975°N 0.1372°W |
| Cod SYG | E09000033, E43000223 |
| Cod post | NW, SW, WC, W |
| GB-WSM | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | cabinet Cyngor Dinas Westminster |
| Corff deddfwriaethol | cyngor Cyngor Dinas Westminster |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | arweinydd Cyngor Dinas Westminster |
| Pennaeth y Llywodraeth | Nickie Aiken |
![]() | |
Bwrdeistref gyda statws dinas yn Llundain Fwyaf, Lloegr, Dinas Westminster (Saesneg: City of Westminster). Mae'n rhan o Llundain Fewnol. Fe'i lleolir ar lan ogleddol Afon Tafwys; mae'n ffinio â Kensington a Chelsea i'r gorllewin, Brent a Camden i'r gogledd, a Dinas Llundain i'r dwyrain; saif gyferbyn â Wandsworth a Lambeth ar lan ddeheuol yr afon.

Mae'r ddinas yn cynnwys West End Llundain ac mae'n gartref i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ynghyd â Phalas Buckingham, Whitehall a'r Llysoedd Barn Brenhinol.
Ym 1965 crëwyd y fwrdeistref hon yn Llundain o hen Fwrdeistref Fetropolitan Saint Marylebone, Bwrdeistref Fetropolitan Paddington a Dinas Westminster a oedd yn llai o ran maint. Mae'r fwrdeistref yn gorchuddio arwynebedd llawer mwy na lleoliad gwreiddiol Westminster.
Ardaloedd
[golygu | golygu cod]Mae'r ardaloedd (neu ran o'r ardaloedd) canlynol i gyd yn dod o fewn Dinas Westminster:
- Bayswater
- Belgravia
- Covent Garden
- Fitzrovia
- Hyde Park
- Knightsbridge
- Lisson Grove
- Maida Vale
- Mayfair
- Marylebone
- Millbank
- Paddington
- Pimlico
- Queen's Park
- St James's
- St John's Wood
- Soho, yn cynnwys Chinatown
- Temple (Llundain) (rhan)
- "Theatreland"
- Westbourne Green
- West End
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Dinas Westminster
