Kingston upon Thames (Bwrdeistref Frenhinol)
Gwedd
| Math | Bwrdeistref Llundain, ardal ddi-blwyf |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Llundain Fawr |
| Poblogaeth | 175,470 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Liz Green |
| Gefeilldref/i | Delft |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Llundain Fawr (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 37.2612 km² |
| Cyfesurynnau | 51.4083°N 0.3053°W |
| Cod SYG | E09000021, E43000211 |
| Cod post | KT, SW, TW |
| GB-KTT | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Kingston upon Thames London Borough Council |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | leader of Kingston upon Thames borough council |
| Pennaeth y Llywodraeth | Liz Green |
![]() | |
Bwrdeistref yn Llundain Fwyaf, Lloegr, yw Bwrdeistref Frenhinol Kingston upon Thames, Kingston upon Thames neu Kingston (Saesneg: Royal Borough of Kingston upon Thames neu Royal Kingston). Fe'i lleolir ar gyrion deheuol Llundain; mae'n ffinio â Richmond upon Thames i'r gogledd-orllewin, Wandsworth i'r gogledd, a Merton a Sutton i'r dwyrain.

Y brif dref yw Kingston upon Thames (neu Kingston) ond mae hefyd yn cynnwys trefi Surbiton, Chessington, New Malden a Tolworth. Mae'n un o dair bwrdeistref yn Llundain Fwyaf a ddynodir yn "Fwrdeistref Frenhinol" (Saesneg: Royal Borough). Yr eraill yw Bwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea a Bwrdeistref Frenhinol Greenwich.
Ardaloedd
[golygu | golygu cod]Mae'r bwrdeistref yn cynnwys yr ardaloedd canlynol:
- Berrylands
- Chessington
- Coombe
- Kingston upon Thames
- Kingston Vale
- Malden Rushett
- Motspur Park
- New Malden (hefyd ym Mwrdeistref Merton)
- Norbiton
- Old Malden
- Surbiton
- Tolworth
