New Malden
| Math | tref, ardal o Lundain |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Bwrdeistref Frenhinol Kingston upon Thames, Bwrdeistref Llundain Merton |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 21 metr |
| Cyfesurynnau | 51.4°N 0.252°W |
| Cod OS | TQ215685 |
| Cod post | KT3 |
![]() | |
Ardal faestrefol yn Llundain Fwyaf, Lloegr, ydy New Maldon – y rhan helaeth ohoni o fewn ym Mwrdeistref Frenhinol Kingston upon Thames ond gyda rhan fechan ohoni ym Mwrdeistref Merton. Saif tua 9.4 milltir (15.1 km) i'r de-orllewin o ganol Llundain.[1] Trefi cyfagos yw Surbiton a Worcester Park.
Cymuned a diwylliant Coreaidd
[golygu | golygu cod]New Malden yw ardal mwyaf poblog Ewrop o ran alltudion o Dde Corea, ac un o ardaloedd mwyaf dwys o bobl Coreaidd yn y byd y tu allan i Dde Corea ei hun gyda thua 20,000 o bobl yn byw o fewn radiws 3 milltir o'r dref.[2] Mae gan yr ardal lu o siopau a tai bwyta Coreaidd. Ar Burlington Road lleolir Sefydliad Diwylliannol Anglo-Goreaidd, ac fe geir nifer o eglwysi yn yr ardal sy'n cynnal gwasanaethau Corëeg.
Caiff hyn ei olrhain i'r 1970au pan ddilynodd nifer o bobl o Dde Corea ôl traed Llysgennad De Corea, a oedd yn byw yn nhref cyfagos Wimbledon ers y 1960au.[2] Pan gynyddodd prisiau tai Wimbledon, symudodd nifer i New Malden. Gelwir yr ardal yn aml yn New Mal-dong, gan mai "cymdogaeth" yw ystyr y gair dong.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Yn draddodiadol, ystyrir Charing Cross fel canol Llundain, a mesurir pellteroedd i'r brifddinas o'r pwynt hwnnw.
- 1 2 https://docs.google.com/viewer?url=http://www.kingston.gov.uk/livin_kingston_spring_2005_final-2.pdf
