Amgueddfa y celfyddydau gweledol yn Ne Kensington, canol Llundain, yw Amgueddfa Victoria ac Albert. Fe'i enwir ar ôl y Frenhines Victoria a'r Tywysog Albert ac fe'i sefydlwyd ym 1852.[1] Mae dros 200,000 o wrthrychau a chelfweithiau yn ei chasgliadau.[2] Yn 2013 daeth yr amgueddfa yn chweched yn y rhestr o atyniadau mwyaf poblogaidd ym Mhrydain; bu dros 3 miliwn o ymwelwyr yn y flwyddyn honno.[3]