Amanda Levete
Amanda Levete | |
---|---|
Ganwyd | 17 Tachwedd 1955, 1959 Pen-y-bont ar Ogwr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pensaer, cynllunydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Museum of Art, Architecture and Technology, Lord's Media Centre, Selfridges Building, Birmingham |
Priod | Jan Kaplický, Ben Evans |
Gwobr/au | Gwobr Stirling, Gwobr Jane Drew, CBE |
Pensaer o Gymraes yw Amanda Levete (ganed 17 Tachwedd 1955). Gyda'i gŵr ar y pryd, Jan Kaplický, enillodd Wobr Stirling RIBA ar gyfer pensaernïaeth ragorol ym 1999.
Ganwyd Levete ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac astudiodd yn St Paul's, ysgol fonedd i ferched yn Llundain, ac Ysgol Gelf Hammersmith, cyn ymaelodi â'r Architectural Association, hefyd yn Llundain.[1] Cafodd ei phrentisiaeth â'r pensaer Will Alsop ac yna aeth i weithio i bartneriaeth Richard Rogers.[1] Cyn ei 30 oed roedd wedi sefydlu ei chwmni ei hun, Powis & Levete, ar y cyd â Geoffrey Powis.[2]
Yn y 1980au hwyr cyfarfu â'r pensaer Tsiecaidd, Jan Kaplický,[3] a sefydlodd y ffỳrm Future Systems yn 1979.[4] Daeth Levete yn bartner gyda'r cwmni ym 1989[4] a bu i'r ddau briodi ym 1991.[5] Ym 1998 cynlluniodd Future Systems dŷ o'r enw Malator yn Druidston, Sir Benfro, ar gyfer y cyn-AS Llafur Bob Marshall-Andrews a'i wraig.[6] Ym 1999 enillodd Future Systems Wobr Stirling am Ganolfan y Cyfryngau ym Maes Criced Lord's, Llundain. Hwn oedd yr adeilad cyntaf a wnaed yn gyfangwbl o alwminiwm yn y byd.[4] Yn 2003, Future Systems a gynlluniodd siop adrannol Selfridges yn Birmingham.[3] Gelwid y ddau bartner yn "benseiri dewraf eu cenhedlaeth".[4]
Ysgarodd Levete a Kaplický yn 2006[3] ac yn 2007 priododd Ben Evans, cyfarwyddwr Gŵyl Ddylunio Llundain. Daeth partneriaeth Future Systems i ben yn 2008 a sefydlodd Levete y cwmni Amanda Levete Associates,[3] a adwaenir bellach fel AL_A. Bu Kaplický farw yn 2009.[3] Yn 2011 enillodd AL_A y gystadleuaeth i adnewyddu Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain.[3]
Detholiad o adeiladau Future Systems
[golygu | golygu cod]-
Malator, Sir Benfro
-
Canolfan y Cyfryngau, Maes Criced Lord's, Llundain
-
Selfridges, Birmingham
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Amanda Levete: the social networker. Architects' Journal. Adalwyd ar 15 Hydref 2015.
- ↑ (Saesneg) Out of time: Amanda Levete. Building Design (1 Ebrill 2011). Adalwyd ar 15 Hydref 2015.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 (Saesneg) Jeffries, Stuart (9 Ebrill 2011). The Saturday interview: architect Amanda Levete. The Guardian. Adalwyd ar 15 Hydref 2015.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 (Saesneg) Booth, Robert (17 Hydref 2008). From a shining future to a bitter end as 'blob' architecture pioneers part company. The Guardian. Adalwyd ar 15 Hydref 2015.
- ↑ (Saesneg) Grice, Elizabeth (11 Mawrth 2009). 'My greatest regret is that I didn't make peace with him in life'. Daily Telegraph. Adalwyd ar 15 Hydref 2015.
- ↑ (Saesneg) House in Wales / Future Systems. IDEASGN. Adalwyd ar 15 Hydref 2015.