Richard Rogers
Richard Rogers | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
Richard George Rogers ![]() 23 Gorffennaf 1933 ![]() Fflorens ![]() |
Dinasyddiaeth |
y Deyrnas Unedig, Lloegr ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth |
pensaer, gwleidydd ![]() |
Blodeuodd |
1973 ![]() |
Swydd |
aelod o Dŷ'r Arglwyddi ![]() |
Adnabyddus am |
Kleanthis Vikelidis Stadium, Millennium Dome, NTV Tower, Centre Georges Pompidou, Lloyd's building, European Court of Human Rights building, Adeilad y Senedd ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Y Blaid Lafur ![]() |
Mudiad |
Pensaernïaeth Fodern ![]() |
Tad |
Nino Rogers ![]() |
Mam |
Dada Gelringer ![]() |
Priod |
Ruth Rogers, Su Rogers, Anne Cheeke, Sue Brumwell, Ruth Rogers ![]() |
Plant |
Roo Rogers, Elizabeth Rogers ![]() |
Gwobr/au |
Pritzker Architecture Prize, Medal Aur Frenhinol, Praemium Imperiale, Golden Lion, Auguste Perret Prize, Cymrawd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain, Honorary doctorate from university of Florence, Marchog Faglor, Royal Designer for Industry ![]() |
Pensaer Eidalaidd-Brydeinig yw Richard George Rogers, Arglwydd Rogers o Riverside (ganwyd 23 Gorffennaf 1933).
Ganwyd Richard George Rogers yn Florence (Tuscany) i deulu Eingl-Eidalaidd. Roedd ei dad, William Nino Rogers (1906–1993), yn gefnder i'r pensaer Eidalaidd Ernesto Nathan Rogers. Symudodd ei gyn-deidiau o Sunderland i Fenis tua 1800, gan fudo yn ddiweddarach i Trieste, Milan a Florence. Yn 1939 penderfynodd ei dad ddod nôl i Loegr.[1]
Mae Rogers yn fwyaf enwog am ei waith ar Ganolfan Georges Pompidou ym Mharis, adeilad Lloyd's a'r Millennium Dome yn Llundain, y Senedd yng Nghaerdydd, ac adeilad Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbourg. Enillodd wobr Medal Aur RIBA, Medal Thomas Jefferson, Gwobr Stirling RIBA, Medal Minerva a'r Wobr Pritzker. Roedd yn Uwch Bartner yng nghwmni penseiri Rogers Stirk Harbour + Partners, a adwaenid yn gynt fel y Richard Rogers Partnership.
Ymddeolodd ym Medi 2020, yn 87 mlwydd oed.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Richard Rogers. Canongate Books. 7 September 2017. ISBN 9781782116943. Cyrchwyd 6 September 2017.
- ↑ Richard Rogers retires: Pompidou and Dome architect helped shape our cities , BBC Wales News, 2 Medi 2020.