Adeilad y Senedd
Gwedd
| Math | adeilad gweinyddiaeth gyhoeddus, senedd-dy |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 1 Mawrth 2006 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Caerdydd |
| Gwlad | |
| Gerllaw | Bae Caerdydd, Afon Taf |
| Cyfesurynnau | 51.4639°N 3.1621°W |
| Cod post | CF99 1SN |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth gynaliadwy |
| Perchnogaeth | Senedd Cymru |
Cartref i Senedd Cymru yw adeilad y Senedd, a godwyd ar lan Bae Caerdydd yng Nghaerdydd. Lleolir y siambr ddadlau ac ystafelloedd pwyllgor o fewn yr adeilad.
Cynlluniwyd yr adeilad gan RRP, cwmni y pensaer Richard Rogers, ac fe'i adeiladwyd ar gost o £69.6 milliwn.
Agorwyd yr adeilad yn swyddogol gan Elisabeth II ar y cyntaf o Fawrth, 2006.
Cyhoeddwyd llyfr am yr adeilad gan yr awdur Trevor Fishlock, yn 2011, Senedd.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Oriel
[golygu | golygu cod]
|





