Afon Taf (Caerdydd)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Taf ger Aberfan.
Y bont i gerddwyr ar Afon Taf, Caerdydd.
Mae dwy 'Afon Taf' yng Nghymru. Mae'r erthygl yma yn delio â'r afon sy'n cyrraedd y môr yng Nghaerdydd. Am y llall, gweler Afon Taf (Sir Gaerfyrddin).

Afon yn ne-ddwyrain Cymru yw Afon Taf (Saesneg: River Taff). Mae'n tarddu ar Fannau Brycheiniog fel dwy afon, Afon Taf Fawr ac Afon Taf Fechan. Mae Afon Taf Fawr yn cychwyn ar lethrau gorllewinol Corn Du ac yn llifo tua'r de trwy gronfa Cantref a chronfa Llwyn-on. Ar lethrau dwyreiniol Corn Du mae Afon Taf Fechan yn cychwyn, ac mae'n llifo trwy gronfeydd Neuadd, Pentwyn a Phontsticill a phentref Pontsticill.

Mae'r ddwy afon yn cyfarfod o gwmpas rhan ogleddol Merthyr Tudful ac yn llifo ymlaen tua'r de trwy Bentrebach, Troedyrhiw ac Aberfan. Yn Abercynon mae Afon Cynon yn ymuno â hi, yna mae Nant Clydach yn ymuno ychydig islaw Abercynon. Gerllaw Pontypridd mae Afon Rhondda yn ymuno. Wedi llifo heibio Trefforest a Nantgarw mae'n cyrraedd Caerdydd yn Llandaf ac yn llifo trwy'r ddinas heibio Stadiwm y Mileniwm i gyrraedd y môr ym Mae Caerdydd.

Dywedir weithiau fod y llysenw "Taffy" at Gymry yn dod o enw Saesneg yr afon yma, ond barn arall yw mai llygriad Saesneg o'r enw "Dafydd" sydd wrth wraidd yr enw yma.

Sonia Marie Trevelyan yn ei 'Folk-lore and Folk Stories of Wales' (1909) am anghenfilod afonol Cymreig, gan nodi bod un o'r rhain yn aber yr afon Tâf yng Nghaerdydd. Dywed y byddai trobwll di-waelod yno, oedd yn un o saith rhyfeddod Morgannwg, lle y llechai sarff anferth. Doedd dim gobaith i neb a dynnid i'r trobwll oherwydd cawsai un ai ei lyncu gan y sarff a diflannu am byth, neu, os oedd o gymeriad da cawsai ei gorff ei olchi i'r lan am nad oedd yr hen sarff yn hoff o gig y cyfiawn.


StubburWales.png Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.