Llys Hawliau Dynol Ewrop
Gwedd
| Enghraifft o: | llys rhyngwladol |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 20 Ebrill 1959 |
| Pennaeth y sefydliad | Llywydd Llys Hawliau Dynol Ewrop |
![]() | |
| Sylfaenydd | Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol |
| Rhiant sefydliad | Cyngor Ewrop |
| Pencadlys | Strasbwrg |
| Enw brodorol | European Court of Human Rights |
| Rhanbarth | Strasbwrg |
| Gwefan | https://www.echr.coe.int |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0bq2z |
| Quora | European-court-of-human-rights |

Lleolir Llys Hawliau Dynol Ewrop (enw Ffrangeg swyddogol: Cour européenne des droits de l'homme; enw Saesneg swyddogol: European Court of Human Rights) yn Strasbourg, Ffrainc. Mae'n gorff cyfreithiol rhyngwladol sy'n deillio o Gonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop (1950). Ei orchwyl statudol yw monitro hawliau dynol yn aelod-wladwriaethu'r Undeb Ewropeaidd. Mabwysiadwyd y Confensiwn gan Gyngor Ewrop ac mae pob un o'r 47 aelod-wladwriaethau yn gorfod ei dderbyn. Ceiff achosion yn erbyn yr aelodau hyn am dorri hawliau dynol gael eu dwyn i'r llys gan wladwriaethau, cyfundrefnau eraill neu unigolion.
Sefydlwyd y Llys fel endid parhaol gyda barnwyr llawn-amser ar 1 Tachwedd 1998. Ceir 47 barnwr o'r 47 aelod-wladwriaeth.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol (Ffrangeg) (Saesneg)
