Llundain Allanol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Llundain Allanol
LondonOuter.png
Mathendid tiriogaethol, grŵp, endid tiriogaethol gweinyddol Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolLlundain Fawr
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd1,253 km² Edit this on Wikidata

Grŵp o fwrdeistrefi Llundain sy'n ffurfio cylch o amgylch rhan ganolog Llundain Fwyaf, Lloegr, yw Llundain Allanol (Saesneg: Outer London). Llundain Fewnol yw'r rhan ganolog. Nid oedd y bwrdeistrefi yn Llundain Allanol wedi bod yn rhan o Sir Llundain cyn i Lundain Fwyaf gael ei chreu ym 1965. Eithriad yw North Woolwich, a oedd wedi bod yn rhan o'r hen sir ond a drosglwyddwyd i Newham o dan y trefniant newydd.

Mae gan yr enw "Llundain Allanol" ddau ddiffiniad cyffredin.

Y cyntaf yw'r diffiniad statudol a amlinellir yn Deddf Llywodraeth Llundain 1963, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 1965, yn cynnwys yr ugain bwrdeistref ganlynol:

Yr ail yw'r diffiniad a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n cynnwys y deuddeg bwrdeistref a restrir uchod, ac eithrio Haringey a Newham, ond hefyd yn cynnwys Greenwich.