Bloomsbury
Math | ardal o Lundain |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Camden |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Tref Somers |
Cyfesurynnau | 51.5231°N 0.125°W |
Cod OS | TQ299818 |
Ardal faestrefol ym Mwrdeistref Llundain Camden, Llundain Fwyaf, Lloegr, ydy Bloomsbury.[1] Saif yn West End Llundain rhwng Euston Road a Holborn. I'r gogledd mae Regent's Park a St Pancras; i'r dwyrain mae Clerkenwell; i'r de mae Covent Garden; ac i'r gorllewin mae Fitzrovia.
Datblygwyd i fod yn ardal breswyl ffasiynol gan y Teulu Russell yn yr 17eg a'r 18g. Mae'n enwog am ei sgwariau megis Russell Square a Tavistock Square, am ei chysylltiadau llenyddol (e.e. trwy y Bloomsbury Group, yn cynnwys Virginia Woolf, John Maynard Keynes, E. M. Forster a Lytton Strachey) ac am ei nifer fawr o sefydliadau fel Yr Amgueddfa Brydeinig, Royal Academy of Dramatic Art (RADA) a'r British Medical Association ynghyd â nifer o sefydliadau academaidd a meddygol eraill.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 3 Mai 2019