John Maynard Keynes

Oddi ar Wicipedia
John Maynard Keynes
Ganwyd5 Mehefin 1883 Edit this on Wikidata
Caergrawnt Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ebrill 1946 Edit this on Wikidata
Firle Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • William Ernest Johnson
  • Alfred North Whitehead Edit this on Wikidata
Galwedigaetheconomegydd, mathemategydd, gwleidydd, athronydd, athro cadeiriol, diplomydd, awdur ffeithiol, person busnes, awdur Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe General Theory of Employment, Interest and Money, Indian Currency and Finance, The Economic Consequences of the Peace, A Treatise on Probability, A Treatise on Money Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
MudiadGrŵp Bloomsbury Edit this on Wikidata
TadJohn Neville Keynes Edit this on Wikidata
MamFlorence Ada Keynes Edit this on Wikidata
PriodLydia Lopokova Edit this on Wikidata
PartnerDuncan Grant, Alfred Dillwyn Knox, Daniel Macmillan, Lytton Strachey, James Strachey, Arthur Hobhouse, David Garnett Edit this on Wikidata
Gwobr/auCydymaith Urdd y Baddon, Gwobr Adam Smith, Fellow of the Econometric Society, Cymrawd yr Academi Brydeinig Edit this on Wikidata
llofnod
John Maynard Keynes (ar y dde) a Harry Dexter White yng nghynhadledd Bretton Woods.

Economegydd Prydeinig oedd John Maynard Keynes, Barwn 1af Keynes (5 Mehefin 188321 Ebrill 1946).[1] Cafodd ei syniadau, Economeg Keyenes, ddylanwad mawr ar theori economeg ac ar bolisïau economaidd llawer o lywodraethau. Credai y dylai'r llywodraeth ymyrryd yn yr economi i wrthweithio effeithiau mwyaf eithafol y cylch economaidd. Ystyrir ef fel un o sylfaenwyr macroeconomeg.

Ganed Keynes yng Nghaergrawnt. Roedd ei dad, John Neville Keynes, yn ddarlithydd mewn economeg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Aeth i ysgol Eton ac yna i Goleg y Brenin, Caergrawnt yn 1902. Yn ddiweddarach daeth yn ddarlithydd yng Nghaergrawnt. Apwyntiwyd ef yn ymgynghorydd i'r Trysorlys yng Nghynhadledd Heddwch Paris yn 1919 a arweiniodd at Gytundeb Versailles Cyhoeddodd ddau lyfr ar y mater, The Economic Consequences of the Peace yn 1919, a A Revision of the Treaty yn 1922, gan ddadlau fod y taliadau a orfodid ar yr Almaen yn ormod, ac y byddai'n difetha economi'r Almaen ac yn arwain at ryfel pellach.

Cyhoeddodd ei lyfr pwysicaf, General Theory of Employment, Interest and Money, yn 1936, gan herio economeg glasurol.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Lord Keynes Dies of Heart Attack. The New York Times (22 Ebrill 1946). Adalwyd ar 28 Ebrill 2013.