Cytundeb Versailles
![]() | |
Enghraifft o: | cytundeb heddwch, cytundeb amlochrog ![]() |
---|---|
Dyddiad | 28 Mehefin 1919 ![]() |
Rhan o | Cyfres Cytuniadau Cynghrair y Cenhedloedd, Cynhadledd Heddwch Paris 1919 ![]() |
Iaith | Ffrangeg, Saesneg ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Cadoediad 11 Tachwedd 1918 ![]() |
Lleoliad | Galeri'r Drychau, Palas Versailles ![]() |
Yn cynnwys | Cytundeb Versailles/Rhan Vlll, Cytundeb Versailles/Rhan VII, Cytundeb Versailles/Rhan IX, Cytundeb Versailles/Rhan VI, Cytundeb Versailles/Rhan V, Cytundeb Versailles/Rhan IV, Cytundeb Versailles/Rhan III, Cytundeb Versailles/Rhan II, Cytundeb Versailles/Rhan X, Cytundeb Versailles/Rhan XI, Cytundeb Versailles/Rhan XII, Cytundeb Versailles/Rhan XIV, Cytundeb Versailles/Rhan XV ![]() |
Gwladwriaeth | Ffrainc ![]() |
![]() |
Cytundeb rhyngwladol rhwng y Cynghreiriad a'r Almaen orchyfygiedig ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf oedd Cytundeb Versailles. Cafodd ei arwyddo ym Mhalas Versailles, Ffrainc, ar ddiwedd Cynhadledd Heddwch Paris, ar 28 Mehefin yn y flwyddyn 1919.
Yn ôl termau'r cytundeb roedd yr Almaen yn euog o achosi'r rhyfel a gorchmynwyd iddi dalu iawndal a chyfyngu nerth ei lluoedd arfog. Yn ogystal bu rhaid iddi adfer tiriogaethau Alsace a Lorraine i Ffrainc, ildio rhannau o ddwyrain yr Almaen (Prwsia) i Wlad Pwyl a derbyn meddiant milwrol y Cynghreiriad ar y Rheinland. Ar ben hynny oll gwnaethpwyd y mwyafrif o drefedigaethau'r Almaen - yn Affrica yn bennaf - yn diriogaethau mandad yng ngofal Cynghrair y Cenhedloedd.

Gwrthododd yr Unol Daleithiau arwyddo'r cytundeb tan 1921.
Un o ganlyniadau termau Cytundeb Versailles oedd y dirwasgiad mawr yn yr Almaen yn y 1920au a dechrau'r 1930au. Yn ogystal porthai teimladau cenedlaetholgar ac imperialistaidd ymhlith yr Almaenwyr. Arweiniai hyn yn y pen draw at dwf Natsïaeth a llywodraeth ffasgaidd Adolf Hitler.
Llofnodwyd Cytundeb Trianon gyda Hwngari yn 1920.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- https://www.llyfrgell.cymru/davidlloydgeorge/ Archifwyd 2019-07-09 yn y Peiriant Wayback