Cytundeb Trianon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hwngari a'i thiroedd coll, 1920
Ffiniau drafft Awstria-Hwngari yn Nghytuneb Trianon a Saint Germain

Roedd Cytuniad Trianon, a lofnodwyd ar 4 Mehefin 1920 yn gasgliad y cyfarfod a gynhaliwyd yn y nghastell y Grand Trianon Castell, Palas Versailles (Ffrainc), i sefydlu statws Hwngari ar ôl iddynt fod yn rhan o'r ochr a gollodd y Rhyfel Byd Cyntaf gyda'i cynghreiriaid Awstrai, yr Almaen a Thwrci. Yn rhan ar y drafodaethau ar ddyfodol y genedl oeddd y pwerau buddugol (Prydain, Ffrainc, yr Eidal, UDA a Japan) a'u partneriaid (Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid - a ail-enwyd yn Iwgoslafia maes o law, Rwmania a Tsiecoslofacia) .

Roedd y cytundeb oedd mewn gwirionedd yn ddilyniant i Gytundeb Versailles (28 Mehefin, 1919), bun ymdrin ag Ymerodraeth yr Almaen, ac yn union wedi Cytundeb Saint-Germain (10 Medi 1919) a benderfynodd amodau heddwch Awstria. Gan bod Hwngari wedi gadael Ymerodraeth Awro-Hwngari ar 16 Tachwedd 1918, felly rhoddodd y Cynghreiriaid driniaeth benodol iddi.

Roedd Hwngari eisoes yn colli llawer o'u tiriogaeth o ganlyniad i'r oruchafiaeth filwrol y Cynghreiriaid erbyn cadoediad (Tachwedd-Rhagfyr 1918) ond collodd ragor o dir yn sgil Cytundeb Trianon. Mae colled Cytundeb Trianon yn dal i achosi loes i'r Hwngariaid hyd heddiw.

Colledion Ymerodraeth Hwngari[golygu | golygu cod y dudalen]

map ethnograffig o 1885 o 'Diroedd Coron Sant Steffan' h.y. Teyrnas Hwngari a Theyrnas Croatia-Slofonia yn ôl cyfrifiad 1880

Roedd y Cynghreiriaid wedi ennill y Rhyfel ar slogan "hawl pobloedd i gael reoli ei hunain" a gyda hynny datgymalwyd rhan Hwngari o'r Ymerodraeth Awstria-Hwngari oedd 325,411 km sgwâr a phoblogaeth o 21 miliwn. Ond er bod sawl iaith frodorol o fewn gwladwriaeth Hwngari, Hwngareg oedd y brif iaith ac unig iaith weinyddol ac addysg gan achosi drwg-deimlad. Er i'r Hwngariaid gyfeirio at y tiriogaeth cyn-Trianon fel 'gwlad' tecach fyddai cyfeirio ato fel Ymerodraeth gan iddynt dra-arglwyddiaethu dros sawl cenedl ac iaith.

Yn gyfan gwbl, collodd Hwngari:

  • Transylfania, a roddwyd i Rwmania, ond mae ei thrigolion yn fwy neu lai yn yr un gyfran, Almaenwyr (10.7%), Hwngari (31.6%) a Romania (53.8%).
  • Croatia, Vojvodina a Bosnia-Herzegovina, a drosglwyddodd i Deyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid (a enwyd yn Iwgoslafia drachefn). Golygai hyn fod Hwngari wedi colli pob allan i'r môr. Cynhaliwyd dinas borthladd bwysig Rijeka (yna Fiume), ac roedd y boblogaeth yn Eidaleg yn bennaf o ganlyniad i bresenoldeb hynafol Fenisaidd yn yr ardal.
  • Slofacia a Ruthenia, a ddaeth yn rhan o Tsiecoslofacia newydd-anedig, ac eithrio ar gyfer rhai rhanbarthau a gafodd eu rhoi i Wlad Pwyl oherwydd bod ei drigolion y wlad honno.
  • Burgenland, o boblogaeth Almaeneg yn bennaf, a drosglwyddwyd i Awstria heb unrhyw un wedi gofyn amdano.

Darparodd y Cytuniad hefyd am refferendwm yn ninas Ödenburg, enclave y Burgenland, sydd bellach yn diriogaeth Awstriaidd.

Yr ymgynghoriad ei gynnal yn 1921 yn unol â chanlyniad y ddinas penderfynu ymuno â Hwngari a enwir Sopron, er cadw statws swyddogol yr Almaen a Hwngari.

Canlyniad[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi Trianon lleihawyd Hwngari i wlad 92,962 km sgwâr (llai na thraean maint ei hymerodraeth) a neilltuwyd 3.5 miliwn o Hwngariaid y tu allan i'r Hwngari newydd, lai. Poblogaeth y wladwriaeth lai newydd yma oedd 7.6 miliwn, dim ond 36% o boblogaeth cyn y Rhyfel oedd yn 20.9 million.[1]

Roedd yr ardaloedd a wobrywyd i'r gwledydd cyfagos yn cynnwys mwyafrif di-Hwngaraidd ond roedd hefyd 31% o'r Hwngariaid (3.3 miliwn) yn byw yno[2] ac wedi ei gadael allan o Hwngari ôl-Trianon.[3][4] Roedd pump o'r deg dinas fwyaf ymerodraeth Hwngari nawr mewn gwledydd eraill. Cyfangwyd byddin Hwngari i 35,000 swyddog a dynion a daeth Llynges Awstria-Hwngari i ben.

Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffin Hwngari yn ystod yr Ail Ryfel Byd, 1941

Yn y cytundebau a elwir yn 'Gwobrau Fienna' (Vienna Awards) yn 1940 'gwobrwyodd' Hitler i Hwngari neth o'r tiroedd gollwyd ganddi yng Nghytuneb Trianon ugain mlynedd yn gynt. Adfeddianwyd Transylfania a rhannau deheuol a thir isel Slofacia ar hyd yr afon Donaw. Daeth gweddill Slofacia yn annibynnol o dan reolaeth y Jozef Tiso ond yn daeaog-wladwriaeth o dan lygaid y Natsiaid. Adfeddianwyd hefyd peth o'r tiroedd oddi ar Rwthenia (Iwcrain) bellach) a Vojvodinja oedd yn Serbia.

Cytuneb Trianon Heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Cytundeb Trianon yn dal i daflu ei gysgod dros Hwngari a'i phobl hyd heddiw. Yn 2018 llwyfanwyd Opera Roc i gofio'r Cytundeb.[5] Yn 2018 roedd Arlywydd Hwngari, Victor Órban, hefyd yn mynnu hawliau i siaradwyr Hwngareg yn nhiroedd Iwcrain sy'n ffinio'r wlad gan lesteirio cynlluniau Iwcrain i ddatblygu perthynas agosach gyda gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.[6]

Dinasyddiaeth Hwngareg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 26 Mai 2010 arwyddwyd cytuneb gan Lywodraeth Hwngari i estyn hawliau dinasyddiaeth Hwngaraidd i'r Hwngariaid sy'n byw y tu allan i'r wlad yn Slofacia, Rwmania, Serbia ayyb. Daeth y ddeddf i rym yn Ionawr 20122 made in January 2011, ac mae'n agored i bob person oedd yn ddinasydd Hwngareg neu'n ddigynydd dinesydd Hwngareg cyn 1920 a rhwng 1941 ac 1945 ac sy'n gallu siarad Hwngareg. Gallant ymgeisio am ddinasyddiaeth Hwngareg hyd yn oed os nad ydynt yn byw yn Hwngari. Erbyn Awst 2015, roedd dros 750,000 cais wedi dod i law a 700,000 person wedi derbyn y dinasyddiaeth. Daeth y prif geisiadau o: 300,000 Transylfania (Rwmania), 130,000 o Vojvodina (Serbia) a 120,000 o Iwcrain.

Szekely yn Rwmania[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir ymgyrch dros hawliau ieithyddol a math ar hunanlywodraeth gan Hwngariaid Translyfania, y Sekerlei, yn Rwmania. Er nad ydynt yn galw am uno'r tiroedd gydag Hwnagari, maent yn galw ar i lywodraeth Rwmania roi iddynt gydnabyddiaeth tirogaethol a diwylliannol ac ieithyddol i'r gymuned Hwngareg. [7]

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]