Vojvodina
Autonomous Province of Vojvodina | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|
Traditional Symbols of Vojvodina |
||||||
Map of Vojvodina within Serbia
|
||||||
Prifddinas (and Y ddinas fwyaf) | Novi Sad (Administrative centre) | |||||
Ieithoedd swyddogol | ||||||
Country | Serbia | |||||
Llywodraeth | Autonomous province | |||||
- | President of the Government | Igor Mirović (SNS) | ||||
- | President of the Assembly | István Pásztor (SVM) | ||||
Cyfreithiol | Assembly | |||||
Sefydliad | ||||||
- | Formation of Serbian Vojvodina | 1848 | ||||
- | Establishment | 1944 | ||||
Arwynebedd | ||||||
- | Cyf | 21,506 km2 8,304 mi sgwâr |
||||
Poblogaeth | ||||||
- | 2011 census | 1,931,809 | ||||
- | Dwysedd | 90/km2 230/mi sgwâr |
||||
Rhanbarth amser | CET Amser +1) | |||||
- | Haf (DST) | CEST (UTC+2) |
Mae Vojvodina (Yr wyddor Gyrilig|Војводина}}), enw swyddogol Talaith Hunanlywodraethol Vojvodina (Serbeg: Аутономна Покрајина Војводина / Autonomna Pokrajina Vojvodina, Nodyn:IPA-srNodyn:IPA-sr; gweler Enwau mewn ieithoedd eraill), yn dalaith hunanlywodraethol o fewn Serbia, wedi ei leoli ar ran ogleddol y wlad ar Wastatir Pannonia. Novi Sad yw'r ddinas fwyaf a chanolfan weinyddol Vojvodina ac ail ddinas fwyaf o ran paint yn Serbia. Mae i Vojvodina boblogaeth o born iawn 2 flown (born iawn 27% o boblogaeth Serbia gan hepgor Kosovo). Mae iddi unfathiant aml-ethnig ac amlddiwylliannol;[2] ac mae 26 grŵp ethnic yn y dalaith,[3][4] a chwe iaith swyddogol yn cael eu defnyddio gan y weinyddiaeth daleithiol.[5]
Enw
[golygu | golygu cod]Mae'r term yn vojvodina yn serbia yn golygu y math o ddugaeth – yn fwy penodol, 'voivodeddiaeth'. Mae'n tarddu o'r gair "vojvoda" (Gweler: voivode) sy'n deillio o'r gair "voevoda" o'r iaith Proto-Slafeg.Mae'r geiriau hynny'n gysylltiedig yn eirdarddol â'r geiriau modern "vojnik" (milwr) a "voditi" (arwain). New gwreiddiol y dalaith oedd (o 1848) y "Voivodeddiaeth Serbiaidd" (Српска Војводина / Srpska Vojvodina) a wedyn newidiodd i fod yn y "Voivodeddiaeth Serbia" (Војводство Србија / Vojvodstvo Srbija).
Enwau swyddogol llawn y dalaith yn yr holl ieithoedd swyddogol yn Vojvodina yw:
- Serbiaidd: Аутономна Покрајина Војводина / Autonomna Pokrajina Vojvodina
- Hwngareg: Vajdaság Autonóm Tartomány
- Slofacia: Autonómna pokrajina Vojvodina
- Rwmaneg: Provincia Autonomă Voivodina
- Kuna: Autonomna Pokrajina Vojvodina
- Rwsiaidd Pannonaidd: Автономна Покраїна Войводина (Avtonomna Pokrajina Vojvodina)
Hanes
[golygu | golygu cod]Amseroedd cyn-Rufeinig a theyrnasiaid Rhufeinig
[golygu | golygu cod]Yn y cyfnod Neolithic, bu i ddau ddiwylliant archeoloegoldau bwysig ffynnu yma: y dwyllaint y Starčevo a diwylliant y Vinča.Sefydlodd y bobl Indo-Ewropeaidd gyntaf yn nhiriogaeth Vojvodina fodern yn ystod 3200 CC. Yn ystod y cyfnod Eneolithig, yr Oes Efydd a'r Oes Haearn, roedd i nifer o ddiwylliannau archeologol Indo-Ewropeaidd leoli eu hunain yn, neu o gwmpas Vojvodina: y Vučedol, Vinkovci, Vatin, Belegiš, y Bosut, ac ati. Cyn y gorchfygiad Rhufeinig yn y ganrif 1af CC, poblogaeth o bobloedd Indo-Ewropeaidd yr Illyrian, Tillamook a phobl o darddiad Celtaidd oedd yn byw yn yr ardal hon. Y taleithiau cyntaf a drefnwyd yn yr ardal hon oedd y Talaith y Scordisci Geltaidd (3g CC-1g OC) gyda'i brif ddinas yn Singidunum (Belgrade), ac yn Neyrnas Ddacannaidd Burebista (ganrif 1af CC).
Yn ystod teyrnasiad y Rhufeiniaid, Sirmium (Sremska Mitrovica heddiw) oedd un o bedair o brif ddinasoedd yr Ymerodraeth Rufeinig, ac fe anwyd chwe Ymerawdwyr Rhufeinig yn y ddinas neu ei chyffiniau. Roedd y ddinas hefyd yn brifddinas i nifer o unedau gweinyddol Rhufeinig, gan gynnwys Pannonia Isaf, Pannonia Secunda, Esgobaeth Pannonia, a Rhaglawiaeth Praetoriaidd Illyria. Bu i reol Rufeinig bara hyd at y 5ed gasrif, pryd ddaeth y rhanbarth i feddiant nifer o wahanol bobloedd a gwladwriaethau.Yn ystod teyrnasiad y rhufeiniaid roedd Banat yn rhan o dalaith Dacia, a Syria yn perthyn i'r dalaith Pannonia.Doedd Bačka ddim yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig ac fe'i phoblogwyd a'i rheolwyd gan Iasyges Sarmatiaidd.
Canol Oesoedd cynnar ac anheddiad Slafeg
[golygu | golygu cod]Ar ôl i'r Rhufeiniaid gael eu neilltuo o'r rhanbarth, daeth nifer o bobloedd Indo-Ewropeaidd a Thwrcig amrywiol i wladwriaethau'n yr ardal. Roedd y bobl yn cynnwys Gothiaid, Sarmatiaid, Hyniaid, Gepidiaid ac Afariaid. Ar gyfer hanes rhanbarthol, y mwyaf pwysig o ran gwladwriaeth oedd gwladwriaeth y Gepidiaid, gyda'u prif ddinas yn Sirmium. Yn ôl y cofnodion o'r 7g, Gwyrthiau Sant Demetrius, rhoddodd yr Afariaid y rhanbarth o Syria i arweinydd Bwlgaraidd o'r enw Kuber tua 680. Symudodd y Bwlgariaid o Kuber i'r de gyda Maurus i Facedonia lle bu iddynt gyd-weithredu gyda Tervel yn yr 8g.
Sefydlodd Slafiaid y Vojvodina fodern yn y 6ed a'r 7g,[6] cyn i rai ohonynt groesi'r afonnydd Sava a'r Donwy, a sefydlu'n y Balcanau. Y llwythau Slafeg a drigai'n nhiriogaeth bresennol Vojvodina oedd, yn cynnwys yr Abodritiau, Severaniaid, Braničevci a'r Timočaniaiad. Yn y 9g, ar ôl y cwymp y wladwriaeth Afariaidd, daeth y sylfaen gyntaf o wladwriaeth Slafeg i fodolaeth amlwg yn y rhanbarth.Y gwladwrieaethau Slafeg cyntaf a reolodd y rhanbarth yma oedd yr Ymerodraeth Fwlgaraidd, Moravia Fawr a Dugiaeth Pannonaidd Ljudevit. Yn ystod y weinyddiaeth Fwlgaraidd (9g), roedd dugiaid Bwlgaraidd lleol megis Salan a Glad, yn rheoli'r rhanbarth. Titel oedd preswyl Salan, tra bod o Glad o bosbil yn byw'n rhagfur Galad neu efallai yn y Kladovo (Gladovo) yn nwyrain Serbia. Disgynnydd Glad oedd Dug Ahtum, arweinnydd lleol arall o'r 11g a gwrthwynebodd sefydlu rheolaeth Hwngareg dros y rhanbarth.[angen ffynhonnell]
Ym mhentref Čelarevo mae archeolegwyr wedi darganfod olion o bobl a ddilynnai'r ffydd Iddewig. Dyddiodd Bunardžić feddau o Avar-Bulgar a gloddiwyd yn Čelarevo, a oedd yn cynnwys penglogau â nodweddion Mongolaidd a symbolau Iddewig, i ddiwedd y 8fed a'r 9g.Ystyrir Erdely a Vilkhnovich fod y beddau hyn yn perthyn i'r Kabariaid a thorrodd cysylltiadau gyda'r Ymerodraeth Khazaraidd rhwng y 830au ac 862. (Ymunodd tri llwyth arall o'r Khazar â'r Magyariaid ac fe gymerwyd rhan yng nghorchfygiad y Magyariaid dros fasn Carpathia, gan gynnwys yr hyn sydd bellach yn Vojvodina yn 895-907.)[angen ffynhonnell]
Teyrnasiad Hwngareg
[golygu | golygu cod]Yn dilyn anghydfodau tiriogaethol gydag Bysantaidd a thaleithiau Bwlgaraidd, fe death y rhan fwyaf o Vojvodina yn rhan o Ddeyrnas Hwngari rhwng y 10fed a'r 12g ac arhosodd o dan weinyddiaeth Hwngareg tan y 16g. Yn dilyn cyfnodau o weinyddiaeth Otomaniaidd a Habsburgaidd, bu i oruchafiaeth wleidyddol Hwngareg sefydlu eto tros Orhan fwyaf o'r rhanbarth yn 1867 a thros y rhanbarth gyfan yn 1882, ar ôl diddymu'r Ffîn Filwrol Habsburgaidd.[angen ffynhonnell]
Dechreuodd y cydbwysedd demograffig newid yn yr 11g panfu i Magyariaid gychwyn cymryd lle'r boblogaeth Slafaidd. Ond o'r 14g, fe nweidwyd y cydbwysedd eto o blaid y Slafiaid pan fu i ffoaduriaid Serbiaidd a oedd yn ffoi o diriogaethau a orchfygwyd gan fyddin yr Ottomaniaid anheddu'n yr ardal. Fe adawodd y rhan fwyaf o'r[7] Hwngariaid y rhanbarth yn ystod gorchfygiad ac ar ddechrau'r cyfnod gweinyddu'r Ottomaniaid, felly'n ystod gweinyddiaeth ac amser yr Ottomaniaid yn Vojvodina roedd y brif boblogaeth yn bennaf yn Serbiaidd) a Moslemiaid.
Teyrnasiad yr Ottomaniaid
[golygu | golygu cod]Ar ôl trechiad Teyrnas Hwngari yn Mohács gan yr Ymerodraeth Ottomannaidd, fe ddisgynnodd y rhanbarth i gyfnod o anarchiaeth a rhyfeloedd cartref. Yn 1526 sefydlodd Jovan Nenad, arweinydd milwrol Serbiaidd, ei reol ym Mačka, gogledd Banat a rhan fach o Syrmia. Credo wladwriaeth byrhoedlog annibynnol, gyda Subotica yn brif ddinas. Ar frig ei bŵer, cyhoeddodd Jovan Nenad ei hun yn Ymerawdwr Serbiaidd yn Subotica. Gan gymeryd mantais o'r sefyllfa filwrol a gweinyddol hynod ddryslyd hyn, ymunnodd uchelwyr Hwngareg y rhanbarth yn ei erbyn ac fe drechwyd y milwyr Serbiaidd yn haf 1527. Fe lofruddwyd Ymerawdwr Jovan Nenad ac fe gwympodd ei wladwriaeth. Yn dilyn cwymp gwladwriaeth yr ymerawrwr,fe sefydlodd cadlywydd milwrol goruchaf o fyddin Jovan Nenad, Radoslav Čelnik, ei wladwriaeth dros dro ei hun yn rhanbarth Syrmia, lle gafodd ei ystyru fel gwas i'r Otomaniaid.
Ychydig ddegawdau yn ddiweddarach, ychwanegwyd y rhanbarth gyfan o fewn yr Ymerodraeth Ottoman, a reolodd tros Vojvodina o ddiwedd y 17g hyd at ddiwedd hanner cyntaf y 18g, pan gafodd ei hymgorffori i'r Frenhiniaeth Hapsbwrg. Bu i Gytundeb Karlowitz yn 1699, rhwng y Gyngrhair Sanctaidd a'r Ymerodraeth Otomanaidd, ddynodi'r tynnu'n ôl o'r lluoedd Ottoman o Ganol Ewrop, ac yn yr oruchafiaeth yr Ymerodraeth Hapsbwrg yn y rhan honno o'r cyfandir. Yn ôl y cytundeb, fe roddwyd ran orllewinol Vojvodina i'r Habsbwrgiaid, ac arhosodd y rhan ddwyreiniol (dwyrain Syrmia ac yn Dalaith o Tamışvar) yn nwylo'r Ottomaniaid hyd nes i goncwest Awstria yn 1716. Roedd hyn yn ffîn newydd a gadarnhawyd gan y Gytundeb Passarowitz yn 1718.
Teyrnasiad Hapsbwrg
[golygu | golygu cod]Yn ystod yr Ymfudiad Mawr Serbaidd, bu i Serbiaid o diriogaethau Otomaniaidd ymgartrefu o fewn y Frenhiniaeth Hapsbwrg ar ddiwedd y 17g (yn 1690), y rhan fwyaf ohonynt yn setlo yn yr hyn sy'n awr yn Hwngari, a'r gweddill yng ngorllewin Vojvodina. Fodd bynnag, oherwydd y digwyddiad hwn, bu i'r holl Serbiaid yn y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ennill statws cydnabyddaeth cenedlaethol a hawliau helaeth, yn gyfnewid am ddarparu ffîn milisiaidd (yn y Ffîn Filwrol) y gellid galw arnynt i amddiffyn yn erbyn goresgynwyr o'r de, yn ogystal ag yn achos o aflonyddwch sifil yn y Ddeyrnas Hapsbwrg Hwngareg.
Ar ddechrau teyrnasiad yr Hapsbwrgiaid, bu i'r rhan fwyaf o'r rhanbarth gael ei gyfuno i'r Ffîn Filwrol, tra bu i rannau gorllewinol o Bačka gael eu rhoi dan weinyddiaeth sifil o fewn Sir Bač. Yn ddiweddarach, fe ehangwyd y weinyddiaeth sifil i rannau eraill (yn bennaf yn y gogledd), tra arhosodd y rhannau deheuol dan weinyddiaeth filwrol. Cynhaliwyd y rhan ddwyreiniol gan y Ottomaniaid rhwng 1787-1788, yn ystod y Rhyfel Rwsieg-Twrceg.
Yn 1716, yn Fienna roedd gwharddiad dros dro ar ymgartrefu gan Hwngariaid a Iddewon yn yr ardal, er bod nifer fawr o siaradwyr Almaeneg yn cael eu cartrefu'n y rhanbarth. O 1782, bu i nifer mwy o Hwngariaid Protestannaidd ac Almaenwyr ethnig ymgartrefu yno.
Yn ystod chwyldroadau 1848-49, roedd Vojvodina yn safle o ryfel rhwng y Serbiaid a'r Hwngariaid, oherwydd y cysyniadau cenedlaethol gwrthwynebol y ddwy boblogaeth. Yng Nghynulliad Mai yn Sremski Karlovci (13-15 Mai 1848), datgannodd y Serbiaid gyfansoddiad serbia Voivodship (Dugiaeth Serbia), rhanbarth hunanlywodraethol o fewn yr Ymerodraeth Awstriaidd. Roedd y Voivodiaeth Serbiaidd yn cynnwys Srem, Bačka, Banat, a Baranja. Cafodd pennaeth archesgobaeth Sremski Karlovci, Josif Rajačić, ei ethol yn batriarch, tra cafodd Stevan Šupljikac ei ddewis fel y prif voivod (dug). Tarodd y rhyfel ethnic yr ardal hon fwyaf efallai, gyda'r erchyllterau ofnadwy a gyflawnwyd yn erbyn y poblogaethau sifil gan y ddwy ochr.
Yn dilyn buddigoliaeth yr Hapsbwrgiaid a'r Serbiaid tros yr Hwngariaid yn 1849, crëwyd diriogaeth weinyddol newydd yn y rhanbarth yn Nhachwedd, 1849, yn unol â'r penderfyniad a wnaed gan Ymerawdwr Awstria. Gyda'r penderfyniad hwn, trawsnewidwyd y rhanbarth Serbiaidd a grëwyd nôl yn 1848 i fod yn tir y goron Awstraidd a adwaenid fel Voivodedd Serbia a Temes Banat. Roedd yn cynnwys Banat, Bačka a Srem, ond dim rhannau deheuol y rhanbarthau hyn a oedd yn rhan o'r Ffîn Filwrol. Eisteddai llywodraethwr Awstria yn Nhemeschwar a reolodd yr ardal, er fod y teitl o 'Voivod' yn perthyn i'r ymerawdwr ei hun. Teitl llawn yr ymerawdwr oedd "Arch Voivod y Voivodedd Serbia" (Almaeneg: Großwoiwode der Woiwodschaft Serbia). Almaeneg ac Illyrian (Serbia) oedd ieithoedd swyddogol tir y goron. Yn 1860, cafodd y dalaith newydd ei diddymu ac fu i'r rhan fwyaf ohoni (gydag eithriad o Syrmia) unwaith eto gael ei cyfuno i mewn i Ddeyrnas Hapsbwrg Hwngari. Ar ôl 1867, fe ddaeth Teyrnas Hwngari yn un o ddwy ranbarth hunan-lywodraethol o Awstria-Hwngari. Bu'r cyfnod yn dilyn Cyfaddawd Awstria-Hwngari o 1867 yn gyfnod economaidd llewyrchus, a bu i economi Teyrnas Hwngari dyfu i fod yr ail economi gyflymaf yn Ewrop rhwng 1867-1913, ond bu cysylltiadau ethnig yn straen. Yn ôl cyfrifiad 1910, yn y cyfrifiad diwethaf a gynhaliwyd yn Awstria-Hwngari,roedd i boblogaeth Vojvodina gynnwys cyfanswm o 510,754, (33.8%) yn Serbiaid, 425,672 (28.1%) Hwngariaid a 324,017 (21.4%) Almaenwyr.[8]
Teyrnas Iwgoslafia, yr Ail Ryfel Byd, Sosialaeth Iwgoslafia
[golygu | golygu cod]Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Ymerodraeth Awstria-Hwngari wedi cwympo. Ar y 29fed o Hydref 1918, daeth Syrmia yn rhan o'r Wladwriaeth o Slofeniaid, Croatiaid a'r Serbiaid. Ar 31fed o Hydref 1918,bu i Weriniaeth Banat gael ei chyhoeddi yn Nhimișoara. Cydnabyddwyd y llywodraeth yn Hwngari ei hannibyniaeth, er i hyn fod yn fyrhoedlog.
Ar Dachwedd 25, 1918, yng Nghynulliad Serbiaid, Bunjevci, a chenhedloedd eraill o Vojvodina yn Novi Sad gyhoeddi uno Vojvodina (Banat, Bačka a Baranja) gyda Teyrnas Serbia (Roedd y cynulliad yn rhifo 757 o ddirprwyon, gydag 578 yn Serbiaid, 84 Bunjevci, 62 Slofaciaid, 21 Rwa, 6 Almaenwyr, 3 Šokci, 2 Croatiaid ac 1 Hwngareg). Un diwrnod cyn hyn, ar Dachwedd 24, bu i Gynulliad Syrmia hefyd gyhoeddi uno Syrmia gyda Serbia. Ar y 1af o Ragfyr 1918, fe ddaeth Vojvodina (fel rhan o Ddeyrnas Serbia) yn rhan swyddogol o Ddeyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid.
Rhwng 1929 a 1941, daeth yr ardal yn rhan o Donwy Banovina, yn dalaith o Ddeyrnas Iwgoslafia, gyda'i phrif ddinas yn Novi Sad. Ar wahân i diriogaethau craidd Vojvodina a Baranja, roedd y dalaith hefyd yn cynnwys rhannau sylweddol o Šumadija a Braničevo rhanbarthau de o'r afon Donwy (ond nid yn y brifddinas o Belgrade).
Rhwng 1941 a 1944, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu i'r Pwerau Echel (Natsïaidd yr Almaen a'i chynghreiriaid, Gladwriaeth Annibyniaeth Croatia a Hwngari) a rhannu a meddiannu Vojvodina. Fe annerchwyd Bačka a Baranja gan Horthy o Hwngari ac fe fu i Syria gael ei chynnwys i mewn i Wladwriaeth annibynnol Croatia. Llai Danube Banovina (gan gynnwys Banat, Šumadija, a Braničevo) yn bodoli fel rhan o ardal reoli gan y Milwrol Gweinyddu yn Serbia. Y ganolfan weinyddol hyn yn llai dalaith yn Smederevo. Fodd bynnag, Banat ei hun oedd ar wahân rhanbarth ymreolaethol rheoli gan ei almaeneg lleiafrifol. Y pwerau meddiannu wedi ymrwymo nifer o droseddau yn erbyn y boblogaeth sifil, yn enwedig yn erbyn y Serbiaid, Iddewon a Roma; y boblogaeth Iddewig o Vojvodina yn bron yn gyfan gwbl yn lladd neu eu halltudio. Mewn cyfanswm, Echel (almaeneg, croatia a hwngari) galwedigaethol awdurdodau lladd tua 50,000 o ddinasyddion o Vojvodina (yn bennaf Serbiaid, Iddewon a Roma) tra bod mwy na 280,000 o bobl eu chaethiwo, arestio, treisio neu arteithio.[9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Autonomous Province of Vojvodina". vojvodina.gov.rs. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-20. Cyrchwyd 2018-03-04.
- ↑ "Покрајинска влада". vojvodina.gov.rs. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-12. Cyrchwyd 2018-03-04.
- ↑ "Serbian Government - Official Presentation". serbia.gov.rs.
- ↑ "Error". vip.org.rs. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-27. Cyrchwyd 2018-03-04.
- ↑ "Beogradski centar za ljudska prava - Belgrade Centre for Human Rights". bgcentar.org.rs. 29 March 2015.
- ↑ "Slovenski grobovi uz reku Galadsku". Blic.rs. Cyrchwyd 23 July 2012.
- ↑ "Ethnic Geography of the Hungarian Minorities in the Carpathian Basin". google.rs. tt. 140, 155.[dolen farw]
- ↑ "Table". Web.archive.org. 2011-01-26. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-26. Cyrchwyd 2016-09-24. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Dr Dušan Popov, Vojvodina, Enciklopedija Novog Sada, sveska 5, Novi Sad, 1996, p. 196.