Amlddiwylliannaeth
| Enghraifft o: | ideoleg |
|---|---|
| Y gwrthwyneb | Tawddlestr, Leitkultur, monoculturalism |
| Rhan o | social philosophy, social policy |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0dnq8 |
| Thesawrws y BNCF | 2349 |
| Quora | Multiculturalism |
Mae'r gair amlddiwylliannaeth neu amlddiwylliant yn dynodi categori gwleidyddol eang[1] sydd yn gyffredinol yn ymwneud ag agweddau a damcaniaethau sydd yn hybu derbyniad o, a chymhwysiad a goddefgarwch tuag at, wahanol ddiwylliannau.
Disgrifir gwahanol fathau ac amlygiadau o amlddiwylliannaeth fel athroniaeth o wleidyddiaeth hunaniaeth,[2] polisi cymdeithasol,[3] gweithredu dros leiafrifoedd,[1] damcaniaethau gwleidyddol o hil, ethnigrwydd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ac anabledd,[1] a damcaniaethiad gwleidyddol o gymdeithas i gyd.[1] Ceir hefyd cysyniadau o lefelau amrywiol o amlddiwylliannaeth, er enghraifft "amlddiwylliannaeth feddal" ac "amlddiwylliannaeth galed".[4]
Yn wreiddiol ymddangosodd y cysyniad yn y 1960au yn sgîl polisïau llywodraethol yng Nghanada ac Awstralia ynglŷn â grwpiau lleiafrifol.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Ffynonellau
[golygu | golygu cod]Mills, Charles W. (2007). "Multiculturalism as/and/or anti-racism?", gol. Laden, Anthony Simon ac Owen, David: Multiculturalism and Political Theory. Gwasg Prifysgol Caergrawnt
Modood, Tariq (2007). Multiculturalism. Polity
West, Patrick (2005). The Poverty of Multiculturalism. Civitas