Cyfeiriadedd rhywiol

Oddi ar Wicipedia
Cyfeiriadedd rhywiol
rhan o rywoleg
Gwahaniaethau

Anrhywioldeb · Cyfunrywioldeb · Deurywioldeb · Heterorywioldeb · Hollrywioldeb · Paraffilia · Unrhywioldeb

Labeli

Cwestiynu · Hoyw · Lesbiad · Queer

Dulliau

Graddfa Kinsey · Grid Klein

Astudiaeth

Bioleg · Demograffeg · Meddygaeth · Seicoleg

Anifeiliaid

Cyfunrywioldeb
mewn anifeiliaid
 ·

Gweler hefyd

Rhyngrywioldeb · Trawsrywedd · Trawsrywioldeb

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae cyfeiriadedd rhywiol yn cyfeirio at gyfeiriad rhywioldeb unigolyn, fel arfer ar y syniad gall gategoreiddio hyn yn ôl y rhyw neu rywedd y personiaid mae'r unigolyn yn ffeindio'n atyniadol yn rhywiol. Y categorïau amlaf o gyfeiriadedd rhywiol yw heterorywioldeb (bod yn atyniadol yn rhywiol i aelodau'r rhyw arall), gwrywgydiaeth neu gyfunrywioldeb (bod yn atyniadol yn rhywiol i aelodau'r un ryw) a deurywioldeb (bod yn atyniadol yn rhywiol i aelodau'r ddau ryw).

Mae'r mwyafrif o ddiffiniadau cyfeiriadedd rhywiol yn cynnwys cydran seicolegol (megis cyfeiriad awydd erotig unigolyn) a/neu gydran ymddygiadol (sy'n canolbwyntio ar ryw partner(iaid) rhywiol yr unigolyn). Mae rhai yn ffafrio yn syml i ddilyn hunan-ddiffiniad neu hunaniaeth unigolyn.

Yn ddiweddarach, mae ysgolheigion rhywoleg, anthropoleg a hanes wedi dadlau nad yw categorïau cymdeithasol megis heterorywiol a gwrywgydiol yn hollfydol. Gall wahanol gymdeithasau ystyried agweddau eraill i fod yn bwysicach na rhyw, yn cynnwys oedrannau'r partneriaid, y swyddogaeth rywiol a chwaraerir ganddynt (megis top neu waelod), neu eu gwahanol statws cymdeithasol.

Gall hunaniaeth rywiol gael ei defnyddio'n gyfystyr â chyfeiriadedd rhywiol, ond mae'r ddau yn cael eu gwahaniaethu weithiau, lle bo hunaniaeth yn cyfeirio at gysyniadaeth unigolyn o'i hunan, a chyfeiriadedd yn cyfeirio at "ffantasïau, serchiadau a dyheadau"[1] ac/neu ymddygiad. Hefyd, weithiau defnyddir hunaniaeth rywiol i ddisgrifio canfyddiad person o ryw ei hunan, yn hytrach na chyfeiriadedd rhywiol. Mae gan y termau hoffter rhywiol a ffafriaeth rywiol ystyr tebyg i gyfeiriadedd rhywiol, ond caffent eu defnyddio yn amlaf tu allan i gylchoedd gwyddonol gan bobl sy'n credu taw mater o ddewis, yn gyfan neu mewn rhan, yw cyfeiriadedd rhywiol.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Reiter, L. (1989) Sexual orientation, sexual identity, and the question of choice. Clinical Social Work Journal, 17, 138-150.
  2.  Termau Gwell ar gyfer eu Defnyddio mewn Adroddiadau Cyfryngau. Stonewall Cymru. Adalwyd ar 14 Hydref, 2007.