Gynecoleg

Oddi ar Wicipedia
Y gwarth! Y cywilydd! Llun gan Jacques-Pierre Maygnier o 1822 yn dangos y geinecolegydd yn cyfaddawdu â modesti oes Victoria drwy beidio ac edrych ar organau rhyw y ferch.

Mewn anatomeg ddynol, gynecoleg (neu geinecoleg) ydy'r astudiaeth o iechyd system atgenhedlu benyw: yr iwterws, fagina ac ofaris. Ystyr y gair Groeg ydy "gwyddoniaeth merched". Geinecolegydd ydy person sy'n arbenigo mewn geinecoleg. Mae bron pob geinecolegydd hefyd yn obstetrician (sy'n arbenigo mewn beichiogrwydd) a'r geni ei hun yn ogystal â'r organau rhyw benywaidd.

Afiechydon[golygu | golygu cod]

Mae sawl afiechyd sy'n cymryd llawer iawn o amser y geinecolegydd:

  1. Cancr ac afiechydon cyn-gancraidd yr organau rhyw, gan gynnwys yr ofaris, y tiwbiau ffalopaidd, yr iweterws, y wain (fagina), a cheg y groth
  2. Anymaltaliaeth yr wrin ('incontinence').
  3. Amenorea: cylchred y misglwyf ar goll
  4. Dysmenoroea: cylchred misglwyf poenus
  5. Anffrwythlondeb
  6. Menoragia (cylchred misglwyf trwm iawn). Mae hyn yn rhagflaenu hysterectomi.
  7. Llithriad y groth ('prolapse') o organau'r pelfis
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: