Condom

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Condom cyn ei ddefnyddio

Dyfais ar gyfer cyfathrach rywiol, wedi'i wneud o latecs neu bolywrethan yw condom. Fe all dyn wisgo condom ar ei bidyn yn ystod cyfathrach rywiol, er mwyn rhwystro rhag i semen y mae'n alldaflu myned i gorff ei gymar. Defnyddir condomau fel dull o atal beichiogrwydd, neu i rwystro trosglwyddiad heintiau a drosglwyddir yn rhywiol megis gonorea, syffilis a HIV.

Sexuality icon.svg Eginyn erthygl sydd uchod am rywioldeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am condom
yn Wiciadur.