Gwain

Oddi ar Wicipedia
1. Y cwfl clitoraidd (blaengroen)
2. Blaen y clitoris
3. Pibell y bledren (Wrethra)
4 Gwain (vagina)
5. Labia mwyaf
6. Labia lleiaf
7. Pen ôl (anws)

Tiwb sy'n arwain o'r organau cenhedlu allanol i'r groth mewn mamal benywaidd yw'r wain neu'r fagina (o'r Lladin uāgīna). Ar lafar: 'cont'.

Anatomeg[golygu | golygu cod]

Mae gwain dynes oddeutu 10cm o hir, a 25mm mewn diamedr (er fod llawer o amrywiaeth o berson i berson). Sylwer fod hyn yn fyrrach ac yn deneuach na'r phidyn cyfartalog. Mae'r wain yn hynod o hyblyg, sy'n galluogi genedigaeth a chyfathrach rywiol. Mae'n cysylltu gyda'r fwlfa ar y tu allan, a cheg y groth ar y tu fewn. Pan fo dynes yn sefyll mae'r fagina a'r groth yn ffurfio ongl o tua 45°. Lleolir agoriad y wain yn rhan ôl y fwlfa, islaw'r clitoris ac agoriad yr wrethra. Tu allan i'r wain, mae'r labia a churn frasderog a elwir Mwnt Gwener. Cochbinc yw lliw'r wain, yn debyg i bilenni mwcws mewnol eraill megis tu fewn y geg.

Mae'r chwarennau Bartholin a lleolir yn nau ben y wain yn gwlychu neu'n iro'r wain rhyw ychydig, ac mae rhywfaint o hylif yn croesi'r mur faginaidd yn ogystal (er nad oes chwarennau arno).

Mewn merched ifanc, mae'r hymen yn gorchuddio rhan o agoriad y wain, nes iddi gael ei rhwygo drwy gyfathrach rywiol, ymarfer corff brwysg, neu rhyw weithgaredd arall megis marchogaeth. Dylid nodi nad yw cyfathrach rywiol yn rhwygo'r hymen o reidrwydd, felly mae'r cysylltiad traddodiadol rhwng yr hymen a gwyryfdod (e.e. yr hen enw Cymraeg, pilen forwyn) yn ofergoel.

Organau cenhedlu benywaidd
  1. tiwbiau Ffalopaidd
  2. pledren
  3. pwbis
  4. man G
  5. clitoris
  6. wrethra
  7. gwain
  8. ofari, neu wygell
  9. coluddyn mawr
  10. croth
  11. ffornics
  12. ceg y groth
  13. rectwm
  14. anws

Swyddogaeth[golygu | golygu cod]

O safbwynt biolegol, mae'r swyddogaethau canlynol gan y wain:

Gweithgaredd Rhywiol[golygu | golygu cod]

Gwain gyda rhan o'r cedor wedi'i siafio

Fe all y crynhoad o derfyniadau nerfol o gwmpas agoriad y wain darparu ymdeimlad pleserus yn ystod gweithgareddau rhywiol. Gall gweithgaredd o'r fath fod yn gyfathrach anghyfunrhyw, symyliad gyda'r dwylo neu gyda ffugbidlen. Lleolir ardal a gelwir y man-G ar fur blaen y wain, oddeutu 5cm o'r agoriad; gall rhai merched brofi pleser angerddol wrth i'r man-G cael ei gosi. Honir fod orgasm man-G yn gallu arwain at alldafliad benywaidd.

Iechyd a hylendid faginaidd[golygu | golygu cod]

Mae'r wain yn organ sy'n llnau ei hun, ac nid oes angen triniaeth arbennig arni.

Archwilir y wain weithiau am resymau meddygol.

Ymysg yr afiechydon a all effeithio'r wain mae cancr y wain a heintiad burum.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]