Cala goeg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ffugbidlen)
Cala goeg
MathTeganau rhyw, phallus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Caliau coeg
Cala goed yn cael ei ddefnyddio

Tegan rhyw yw cala goeg (Saesneg a sawl iaith arall: dildo), sy'n cael ei ddefnyddio yn ystod hunan leddfu (halio neu fastyrbio) neu wrth gael cyfathrach rywiol. Mae o siâp pidyn fel arfer, ac mae'n cael ei roi i mewn i'r wain neu'r anws. Nid oes gan gala goeg gyffredin drydan; ond defnyddir cryno ddic (sy'n fwy soffistigedig) gan lawer gan fod modur trydan yn ei yrru, a'r pleser (yn llawer) yn fwy. Ceir rhai mathau gyda strap i'w ddal yn ei le pan fo dwy ferch yn ei ddefnyddio; gelwir y math hwn yn 'strap gala' mewn rhai rhannau o Ddyfed,[angen ffynhonnell] a strap on yn Saesneg yn gyffredinol.

Fe'i defnyddir trwy ei roi yn y corff tra'n hunan leddfu a'i siglo nôl ac ymlaen. Ceir gwahanol siapau a lliwiau di-ri.

Enwau arall[golygu | golygu cod]

Enwau arall arno yw: dildan, gwain-goswr, hudlath y forwyn, peiriant pleser a teclyn ticlo.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am rywioldeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato