Mons veneris

| Delwedd:Mons Pubis (lateral).jpg, Poolside anterior view of mons pubis.jpg, Mons venus.jpg | |
| Enghraifft o: | dosbarth o endidau anatomegol |
|---|---|
| Math | rhan o'r pelfis, endid anatomegol arbennig |
| Rhan o | Fylfa |
| Dynodwyr | |
Mewn anatomeg ddynol, cnwc Gwener[angen ffynhonnell] neu chwydd Fenws[angen ffynhonnell] (yn iaith meddygaeth mons veneris, ymadrodd Lladin sy'n golygu ‘mynydd Gwener’) ydy'r chwydd llyfndew o feinwe frasterog yn y werddyr (hefyd cedorlle) lle gorwedd y gedor a'r symffysis piwbig. Mae'n fwy amlwg mewn benywod nag ydyw mewn dynion a dydy'r term ‘cnwc Gwener’ ddim yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r rhan yma o gorff dynion fel rheol, ond mons pubis (Cymreigiad: mons pwbis ‘mynydd y pwbis’). Ar ôl glasoed, pan fo llif yr estrogen yn gryf, caiff ei orchuddio â blewiach mân a elwir yn gedor.
Mewn benywod, mae cnwc Gwener yn ymrannu gan ffurfio'r gweflau mwyaf o boptu'r hollt hwnnw a elwir yn hollt Gwener sy'n amgylchynu'r clitoris, agoriad y wain a strwythurau eraill o fewn y fylfa. Mae cnwc Gwener felly'n gwthio'r fylfa allan oddi wrth y corff pan fo'r ferch yn sefyll.
Nid yw ei bwrpas yn wybodus i'r anatomydd, ond un posibilrwydd yw ei fod yn amlygu'r organau cenhedlu, fel modd o geisio denu cymar.